Achub Clwb Golff yn Sir Gâr

  • Cyhoeddwyd
Clwb golff Garnant
Disgrifiad o’r llun,

Mi fydd cynghorwyr yn penderfynu a ddylid trosglwyddo'r cwrs golff yn Nyffryn Aman i'r aelodau mewn cyfarfod Llun nesaf.

Mae'n bosib y bydd clwb golff gafodd ei adeiladu ar hen safle glo brig yn Sir Gâr yn cael ei achub, wedi i'r cwmni oedd yn ei reoli gael ei roi yn nwylo'r gweinyddwyr.

Bydd cais yn dod gerbron cynghorwyr y sir yn gofyn iddyn nhw gytuno ar gynllun i drosglwyddo'r cwrs golff yn Nyffryn Aman i aelodau'r clwb.

Mae'r cwrs ar safle 120 erw gyda golygfeydd o'r Mynydd Du.

Fe wnaeth Cyngor Sir Caerfyrddin gyfrannu tuag at sefydlu'r cwrs £1 miliwn ar hen safle glo brig yn ardal y Garnant, ger Rhydaman.

Roedd yn cael ei redeg gan y cyngor cyn cael ei drosglwyddo i gwmni Clay's o Wrecsam yn 2011 ar gytundeb 25 mlynedd oedd yn cynnwys cymhorthdal o £160,000.

Y bwriad oedd dod â'r cymhorthdal hwnnw i ben ar ôl cyfnod o chwe blynedd.

Ond fe aeth y cwmni i ddwylo'r gweinyddwyr yn fuan wedi i'r cymhorthdal ddod i ben.

Mae'r AC lleol, Rhodri Glyn Thomas, wedi galw am ymchwiliad llawn i'r sefyllfa.

Mae bwrdd gweithredol y cyngor wedi derbyn cais yn gofyn iddyn nhw gytuno i drosglwyddo rheolaeth y clwb golff i'r aelodau presennol, pan fydd y bwrdd yn cyfarfod ddydd Llun nesaf.

Fe fyddai'r cynllun yna'n mynd o flaen cyfarfod cyffredinol blynyddol aelodau'r clwb.

Mae'r cyngor yn dweud na fyddai cymhorthdal yn cael ei roi ac na fyddai unrhyw gost ychwanegol i drethdalwyr y sir.

Dywedodd Arweinydd y Cyngor, Kevin Madge: "Mae hwn yn adnodd gwych, ac mae'r cais yn golygu y byddai'n cael ei reoli gan y bobl sy'n ei adnabod orau - y rheiny sy'n defnyddio'r cwrs."