Katherine Jenkins yn casglu OBE

  • Cyhoeddwyd
Katherine JenkinsFfynhonnell y llun, PA
Disgrifiad o’r llun,

Katherine Jenkins yn derbyn ei OBE gan y Tywysog

Mae'r gantores, Katherine Jenkins, wedi derbyn OBE gan y Tywysog Charles ym Mhalas Buckingham.

Mae'r soprano o Gastell Nedd, sy'n 33 oed, wedi derbyn yr anrhydedd am ei gwasanaethau i'r byd cerddorol ac am ei gwaith elusennol.

Mae'r berfformwraig, sydd wedi ymddangos ar lwyfannau amrywiol, wedi dweud y llynedd ei bod yn falch iawn o gael ei henwi ar Restr Anrhydeddau'r Flwyddyn Newydd.

Dywedodd ei bod am rannu'r anrhydedd gyda'r elusennau y mae'n cydweithio gyda.