Ymosodiadau ar weithwyr tân: bywydau yn fantol

  • Cyhoeddwyd
Injan dânFfynhonnell y llun, BBC news grab
Disgrifiad o’r llun,

Mae gan rhai peiriannau tân gamerâu cylch cyfyng erbyn hyn

Mae'r gwasanaeth tân yn rhybuddio y gallai bywydau pobl fod yn fantol am fod yna fwy o ymosodiadau ar ddiffoddwyr tân tra maen nhw wrth eu gwaith.

Yn ôl eu ffigyrau nhw mae 'na gynnydd wedi bod yn nifer yr ymosodiadau yn y blynyddoedd diweddar. Yn 2012/13, 12 o ymosodiadau gafodd eu cofnodi ar ddiffoddwyr tân yn ne Cymru. Ond erbyn diwedd Rhagfyr 2013 mae'r ffigwr eisoes wedi cyrraedd 14 o ymosodiadau.

Mae un o'r uwch swyddogion yn dweud y gallai'r ffigwr fod yn uwch am nad ydy gweithwyr tân wastad yn adrodd yr hyn sydd wedi digwydd iddyn nhw.

Peryglu bywyd

Dywedodd Dewi Jones, Pennaeth Uned Trosedd Tân, Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru:

"Diolch byth, lleiafrif bychan iawn o bobl sy'n gyfrifol am y math hwn o ymddygiad - fodd bynnag, cynyddodd ymosodiadau ar ein diffoddwyr tân dros y blynyddoedd diwethaf gydag amryw o ymosodiadau yn parhau heb eu hadrodd.

"Rydyn ni am roi taw ar yr ymosodiadau hyn nawr.

"Gall gweithredoedd yr 'ymosodwyr' hyn atal y Gwasanaeth Tân ac Achub rhag parhau â'u gwaith ac fe all beryglu bywydau pobl, heb son y gall y sawl sy'n gyfrifol gael cofnod troseddol am eu gweithredoedd."

Mae'r gwasanaeth wedi cychwyn ymgyrch i godi ymwybyddiaeth - 'Ni Fedrwn Warchod O Dan Ymosodiad'. Y math o broblemau sydd yn medru codi ydy bod ymladdwyr tân yn cael eu cicio neu eu dyrnu, bod poteli neu frics yn cael eu taflu neu fod pobl yn gweiddi ac yn rhegi arnyn nhw.

Mae Huw Jakeway, Prif Swyddog Tân, Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru yn dweud nad ydy ymddygiad fel hyn yn dderbyniol:

"Daw ymosodiadau ar ein criwiau tân â chanlyniadau difrifol ac ni all fod, ac ni fydd yn rhan o waith unrhyw un i wynebu trais, bygythiadau neu ymosodiadau," meddai.

Troseddu

"Rydym yn cymryd unrhyw ymosodiadau geiriol neu gorfforol yn erbyn ein staff yn hynod ddifrifol. Mae'n gwbl annerbyniol ac yn tynnu ein sylw oddi ar gyflawni'n prif rôl o gadw'r cyhoedd yn ddiogel a'u hamddiffyn mewn argyfwng.

"Gall ymosodiadau ar ein criwiau gael canlyniadau sy'n bygwth bywydau'r bobl sy'n rhan o'r digwyddiad y mae'r diffoddwyr yn ymateb iddo - preswylwyr tân mewn tŷ, er enghraifft."

Mewn rhai ardaloedd ym Mhrydain mae gweithwyr tân wedi eu saethu neu eu trywanu wrth ymateb i alwad frys.

Mae hi'n drosedd rhwystro staff y gwasanaethau brys rhag gwneud eu gwaith ac mae'n bosib i berson gael ei erlyn a gorfod talu dirwy.

Erbyn hyn mae camerâu teledu cylch cyfyng wedi eu rhoi mewn peiriannau tân yn ne Cymru rhag ofn bod angen tystiolaeth er mwyn erlyn aelod o'r cyhoedd.

Mi ddigwyddodd hyn mewn un achos yng Nghas-gwent.

Roedd y gwasanaeth tân wedi ymateb i alwad mewn clwb cymdeithasol ond mi wrthododd un dyn a oedd wedi meddwi eu gadael i mewn.

Mi oedd yn rhaid i'r heddlu yn gorfforol fynd â'r dyn oddi yno fel bod y diffoddwyr yn medru mynd mewn i'r adeilad.

Yn Llys Ynadon Caerffili cafodd y dyn ddirwy o bron £500.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol