Dangos Llanddwyn i weddill y byd

  • Cyhoeddwyd
Gweld Eryri o draeth Ynys Llanddwyn
Disgrifiad o’r llun,

Yr olygfa o Eryri o draeth Ynys Llanddwyn ar Ynys Môn

Mae un o draethau hyfrytaf gogledd Cymru wedi cael ei ddewis fel un o bedwar safle fydd yn cael eu defnyddio i hybu twristiaeth Prydain ym Maes Awyr Heathrow.

Fe ddaw'r newyddion â hwb i dwristiaeth ar Ynys Môn, ac mae'r traeth hefyd yn rhan o Lwybr Arfordir Cymru.

Mae Maes Awyr Heathrow wedi rhoi gwerth £4 miliwn o le hysbysebu i'r asiantaeth dwristiaeth VisitBritain er mwyn hybu gwledydd a rhanbarthau'r DU gydol 2014.

O dan y faner 'GREAT', nod yr ymgyrch hysbysebu yw dangos ystod ac amrywiaeth cyfoeth naturiol Prydain gyfan, a dangos bod atyniadau i dwristiaid yn agored i fusnes yn dilyn y tywydd drwg yn ddiweddar.

Rhwng Mawrth a Mehefin eleni, bydd miliynau o deithwyr yn gweld delweddau o Landdwyn, Cernyw, Ynys Wydrin (Glastonbury) a Dyfnaint ar 134 o sgriniau digidol ar draws y maes awyr.

'Godidog'

Mae'r sector twristiaeth - un o ddiwydiannau mwyaf Ynys Môn - yn werth £240 miliwn i economi'r ynys gan ddenu 1.5 miliwn o ymwelwyr bob blwyddyn ac yn gyfrifol am gyflogi 4,000 o bobl.

Dywedodd y Cynghorydd Aled Morris Jones, deilydd portffolio datblygu economaidd ar gabinet Cyngor Sir Ynys Môn:

"Rydym wrth ein bodd bod Llanddwyn, un o'n lleoliadau mwyaf godidog, yn un o'r lleoliadau cyntaf i gael eu dewis fel rhan o'r ymgyrch VisitBritain.

"Mae hyn yn sylw gwych ar gyfer yr Ynys ac yn pwysleisio ein bod ni, ynghyd â gweddill y DU, yn agored i fusnes ac yn barod i groesawu ymwelwyr o bob cwr o'r byd."

Dywedodd Iwan Huws, Prif Swyddog Datblygu Twristiaeth a Marchnata Cyngor Sir Ynys Môn:

"Mae rôl Ynys Môn mewn ymgyrch hyrwyddo mor uchel ei broffil yn atgyfnerthu ei statws fel cyrchfan twristiaeth o'r radd flaenaf.

"Rydym yn gobeithio y bydd hyn yn annog mwy o ymwelwyr ddod i ddarganfod hyn sydd gan ein hynys brydferth i'w gynnig."