Pryder am gynllun tai ger Llanddwyn
- Cyhoeddwyd
Mae pryderon ar Ynys Môn am gynlluniau i ddymchwel toiledau cyhoeddus a maes parcio gerllaw un o gyrchfannau mwyaf poblogaidd yr ynys i dwristiaid.
Bwriad yr awdurdod lleol yw codi 17 o dai - wyth ohonynt yn dai fforddiadwy - ym mhentre' Niwbwrch.
Yr union leoliad yw ar y ffordd tuag at Ynys Llanddwyn lle mae chwedl Santes Dwynwen - nawddsant cariadon Cymru - yn denu miloedd o bobl yn flynyddol.
Mae'r cynghorydd lleol ar Gyngor Sir Ynys Môn, Ann Griffith, wedi dweud wrth raglen y Post Cyntaf ar Radio Cymru y bydd yn gwrthwynebu'r cynlluniau gan ddweud nad yw'n credu bod angen y fath ddatblygiad yn y pentref.
Mae'n bryderus hefyd y gallai'r datblygiad gael effaith ar yr iaith Gymraeg yn lleol.
Mae'n credu hefyd y byddai llai o leoedd parcio yn beth drwg, ac fe fydd yn argymell aelodau'r pwyllgor cynllunio i wrthwynebu'r cais sy'n cael ei gynnig gan adran eiddo'r cyngor ei hun.
Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Sir Ynys Môn: "Gallwn gadarnhau bod yr Adran Eiddo wedi cyflwyno cais cynllunio i ddatblygu'r safle wrth godi tai preifat sy'n cynnwys elfen o dai fforddiadwy.
"Mae'r cais yn cael ei brosesu ar hyn o bryd, ac fe fydd gan drigolion Niwbwrch gyfle i leisio'u barn fel rhan o ymgynghoriad cyn penderfynu ar y cais."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd25 Ionawr 2013
- Cyhoeddwyd31 Awst 2012
- Cyhoeddwyd17 Mai 2012