Cyhoeddi darn £1 newydd i helpu atal ffugio

  • Cyhoeddwyd
Darn £1 newyddFfynhonnell y llun, Y Bathdy Brenhinol
Disgrifiad o’r llun,

Y bwriad yw lleihau'r nifer o ddarnau punt ffug sydd mewn cylchrediad

Bydd darn arian £1 newydd, sydd wedi ei ddylunio i fod "y mwyaf diogel yn y byd", yn cael ei gyflwyno yn 2017.

Mae pryder am wendid y bunt bresennol - a'r perygl o ffugio. Yr amcangyfrif yw bod 45 miliwn o ddarnau arian ffug mewn cylchrediad.

Mae'r darn newydd wedi ei seilio ar yr hen ddarn tair ceiniog, y darn gyda 12 ochr oedd mewn cylchrediad rhwng 1937 a 1971.

Bydd cystadleuaeth i benderfynu pa lun fydd yn cael ei roi ar yr arian.

3% yn ffug

Cafodd y darn punt bresennol ei gyflwyno yn 1983, fel rhan o'r broses o gael gwared ar y papur punt.

Mae'r Bathdy Brenhinol, sy'n credu bod 3% o ddarnau £1 yn ffug, yn gobeithio y bydd y darn newydd yn hybu "hyder y cyhoedd" ac yn lleihau costau i fanciau a busnesau eraill.

Dywedodd llywodraeth y DU nad oedd y darn £1 bresennol yn addas bellach er mwyn ceisio lleihau ffugio.

Ffynhonnell y llun, George Osborne
Disgrifiad o’r llun,

Ar wefan Twitter, dywedodd y canghellor, George Osborne: "Heddiw byddaf yn cyhoeddi Cyllideb am economi wydn - gan ddechrau gyda darn arian punt wydn."

Bydd y darn newydd yn cael ei gynhyrchu mewn dau liw, a bydd yn cynnwys y dechnoleg ddiweddaraf i fedru gwirio ei ddilysrwydd.

Bydd delwedd o'r Frenhines yn cael ei roi ar un ochr o'r arian, a dywedodd y Trysorlys y byddai cystadleuaeth gyhoeddus i benderfynu ar y llun ar yr ochr arall.

Dywedodd Adam Lawrence, prif weithredwr y Bathdy Brenhinol sydd wedi ei leoli yn Llantrisant, Rhondda Cynon Taf, y gall y broses gynhyrchu newid y ffordd mae arian yn cael ei greu yn y dyfodol.

"Ein bwriad yw cynhyrchu darn arian arloesol fydd yn lleihau'r cyfleoedd i ffugio, gan hybu hyder y cyhoedd yn arian y DU fel rhan o hynny."