Aur ac arian i ddathlu bedydd brenhinol

  • Cyhoeddwyd
Arian y Tywysog George

Mae Dug a Duges Caergrawnt wedi rhoi sêl bendith i gynhyrchu darnau o arian i ddathlu bedydd brenhinol am y tro cyntaf yn y DU.

Bydd y darnau arian a gynhyrchwyd yn y Bathdy Brenhinol yn Llantrisant yn mynd ar werth ddydd Mawrth i nodi bedyddio'u mab, Y Tywysog George.

Fe fyd y darn £5 ar gael mewn arian ac aur - arian oherwydd y gred bod rhoi arian ar law babi yn mynd i ddod â iechyd a llewyrch i'r plentyn, ac aur i nodi dathliad brenhinol.

Bydd mab William a Kate yn cael ei fedyddio yn y Capel Brenhinol, Palace San Siôr, ar Hydref 23.

'Symbolaidd ac urddasol'

Dywedodd Dr Kevin Clancy, cyfarwyddwr Amgueddfa'r Bathdy Brenhinol: "Rwy'n credu bod y cynllunydd John Bergdahl wedi gwneud gwaith ardderchog o greu rhywbeth sy'n fythol.

"Mae yna rywbeth symbolaidd ar urddasol amdano, sydd ddim yn beth hawdd i wneud.

"Mae Dug a Duges Caergrawnt wedi bod yn rhan o gymeradwyo'r thema, ac yn ei ystyried yn gynllun da.

Ffynhonnell y llun, Y Bathdy Brenhinol
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r Bathdy eisoes wedi cynhyrchu 2013 o geiniogau arian ar gyfer babanod sy'n rhannu pen-blwydd y tywysog newydd

"Does gennym ddim mwy o fanylion na hynny, ond mae'r ffaith eu bod yn ei hoffi yn ddigon da i ni."

Ychwanegodd Dr Clancy bod y Frenhines a'r Canghellor George Osborne wedi cymeradwyo'r cynlluniau.

Dywedodd y cynllunydd Mr Bergdahl ei bod fel arfer yn cymryd hyd at ddwy flynedd i gynhyrchu darn arian newydd, ond bod y darn yma wedi gorfod cael ei wneud mewn tua saith mis gan nad oedd manylion fel rhyw nac enw'r plentyn yn wybyddus.

'Miloedd' o archebion

Dywedodd: "Gobeithio bydd y darn yn edrych cystal ymhen 100 mlynedd ag y mae nawr."

Bydd fersiwn kilo o'r darn aur yn mynd ar werth am £50,000, ond fe fydd hefyd fersiwn £13 yn cael ei werthu.

Dywedodd y Bathdy Brenhinol eu bod wedi derbyn miloedd o archebion o'r DU ac o amgylch y byd.

Dyma'r ail ddathliad o enedigaeth y Tywysog George i'w nodi gan y Bathdy Brehinol.

Yn fuan wedi'r genedigaeth cyhoeddodd y Bathdy y byddai babanod a aned ar yr un diwrnod â'r tywysog newydd yn derbyn ceiniog arian.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol