Llai yn ddi-waith yng Nghymru

  • Cyhoeddwyd
Canolfan Waith
Disgrifiad o’r llun,

Mae 108,000 o bobl heb waith yng Nghymru - gostyngiad o 12,000 ers ffigurau mis Rhagfyr.

Mae canran y bobl sy'n ddi-waith yng Nghymru wedi gostwng i 6.7% yn y chwarter diwethaf.

Yn ôl ffigyrau'r Swyddfa Ystadegau bu gostyngiad o 12,000 yn nifer y di-waith yng Nghymru yn y tri mis hyd Ionawr 2014.

Mae'n golygu fod canran y di-waith yng Nghymru yn is o'i gymharu â 7.2% ar gyfer y Deyrnas Unedig.

Yn ôl Esther McVey, Gweinidog Cyflogaeth San Steffan, Cymru welodd y cynnydd mwyaf yn y canran o bobl mewn gwaith o holl wledydd a rhanbarthau'r DU dros y 12 mis diwethaf.

Dim ond de ddwyrain, de orllewin a dwyrain Lloegr sydd â chanrannau diweithdra is na Chymru.

Dywedodd Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones fod nifer y bobl sy'n dod o hyd i swyddi wedi codi tair gwaith gymaint a'r cyfartaledd ar gyfer y DU.

"Mae ffigyrau heddiw hefyd yn dangos fod diweithdra ymhlith pobl ifanc yn gostwng ynghynt yng Nghymru nag yn y DU ac mai Cymru sydd wedi gweld y cynnydd mwyaf o ran cyflogaeth yn y sector breifat dros y 12 mis diwethaf," meddai.

Fe wnaeth nifer y bobl ddiwaith yn y DU ostwng 63,000 i 2.33 miliwn yn y tri mis hyd Ionawr 2014.

Mae'r nifer o bobl mewn swydd wedi codi i 30.19 miliwn.