'Pecyn cymorth' rhifedd i ysgolion
- Cyhoeddwyd
Mae Huw Lewis, Gweinidog Addysg a Sgiliau llywodraeth Cymru, wedi lansio pecyn cymorth ar gyfer ysgolion i'w helpu i addysgu rhesymu rhifiadol.
Bydd y maes yn rhan o Brofion Darllen a Rhifedd Llywodraeth Cymru o fis Mai.
Fe gafodd £833,000 o gymorth grant ei neilltuo i weinyddu'r Profion Darllen a Rhifedd yng Nghymru yn 2014.
Mae rhesymu rhifiadol yn elfen o'r Fframwaith Llythrennedd a Rhifedd Cenedlaethol, a'r nod yw helpu plant a phobl ifanc i ennill sgiliau datrys problemau mewn mathemateg.
Mae Llywodraeth Cymru wedi cynyddu'r Rhaglen Gymorth Genedlaethol i ddarparu deunyddiau cymorth rhesymu rhifiadol i ysgolion drwy wefan Dysgu Cymru.
Fe gafodd y deunyddiau hyn eu cynllunio i gefnogi athrawon i ddatblygu rhesymu rhifiadol yn eu hystafelloedd dosbarth.
Bydd cyfres o ddigwyddiadau hyfforddiant ar ddatblygiad proffesiynol hefyd yn cael eu cynnal dros y misoedd nesaf i alluogi ysgolion i sicrhau bod arferion yn newid yn yr ystafell ddosbarth a bod y newid hwnnw yn cael ei gynnal.
'Sgil allweddol'
Dywedodd Huw Lewis: "Mae'n bwysig iawn i'n pobl ifanc ddeall rhesymu rhifiadol ac, yn ôl yr hyn mae cyflogwyr wedi'i ddweud wrthym ni, mae hwn yn sgil allweddol y maen nhw'n chwilio amdano ymhlith eu gweithwyr.
"Nid cwestiwn o allu 'gwneud' mathemateg yn unig yw hwn. Mae'n golygu defnyddio gwybodaeth i ddatrys problemau rhifiadol.
"Mae'n rhaid i ddisgyblion allu edrych ar gwestiynau a phenderfynu pa sgiliau rhifiadol sydd eu hangen a pha gamau i'w cymryd i ateb pob cwestiwn.
"Rydyn ni'n clywed yn rhy aml am bobl ifanc ddim hyd yn oed yn rhoi cynnig ar ateb cwestiynau ac mae'n rhaid rhoi stop ar hynny. Mae angen i ddisgyblion gael y sgiliau i ateb unrhyw gwestiwn sy'n cael ei roi o'u blaenau nhw yn hyderus.
"Os byddan nhw'n gwneud camgymeriad, mae angen iddyn nhw ddeall pam a sut gallan nhw ddatrys y broblem. Mae hyn yn hanfodol bwysig os ydyn ni am wella ein perfformiad mewn asesiadau rhyngwladol a dyma'r sgiliau y mae PISA yn edrych arnyn nhw.
"Rydyn ni wedi gwneud ymrwymiad clir i godi safonau a gwella perfformiad ym mhob agwedd yn ein hysgolion ac mae cyflwyno rhesymu rhifiadol yn rhan allweddol o'r agenda hwnnw".
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd3 Mawrth 2014
- Cyhoeddwyd3 Rhagfyr 2013