Clwyd yn gwadu honiadau Carwyn Jones
- Cyhoeddwyd
Mae Ann Clwyd wedi gwadu bod Prif Weinidog Cymru Carwyn Jones yn gywir i ddweud ei bod hi wedi methu â chynnig tystiolaeth i gefnogi ei honiadau am wasanaeth iechyd Cymru.
Roedd Mr Jones wedi dweud yn ystod sesiwn gwestiynau'r Prif Weinidog yn y Senedd bod y dystiolaeth roedd Ms Clwyd wedi ei ddarparu yn "ddienw" ac nad oedd modd eu gwirio.
Wrth siarad ar raglen Dylan Jones ar BBC Radio Cymru fore Gwener, dywedodd Ann Clwyd ei bod wedi darllen llythyrau gan gleifion neu deuluoedd i gleifion o Gymru yn Nhŷ'r Cyffredin, gan gadw enwau'r teuluoedd yn anhysbys, ac wedi anfon llythyr manwl at Carwyn Jones ym mis Rhagfyr yn tanlinellu'r pryderon.
''Dwi wedi bod yn gysylltiedig gyda'r gwasanaeth iechyd yng Nghymru ers blynyddoedd... Dwi'n gwybod yn iawn beth sydd yn digwydd, dwi'n gwybod am y cwynion'', meddai.
Mewn cyfweliad gyda BBC Cymru yn gynharach yn yr wythnos, dywedodd Ms Clwyd bod gwahaniaeth rhwng tystiolaeth ddienw, a thystiolaeth lle'r oedd enwau'r cwynwyr wedi cael eu cuddio yn hwyrach.
Dywedodd Ms Clwyd: "Fel rwyf wedi esbonio ar nifer o achlysuron, os nad yw pobl eisiau i'w henwau a'u cyfeiriadau gael eu rhyddhau, yna allwn ni ddim gwneud hynny.
"Mae gennym ni gannoedd o bobl sydd â chwynion am y gwasanaeth iechyd yng Nghymru, a'r peth gorau roedden ni'n gallu ei wneud oedd rhoi rhestr o'r math o gwynion roedd pobl yn ei wneud iddo ef [Carwyn Jones].
"Rwyf wedi bod yn siarad am hyn am ryw flwyddyn nawr. Fe wnes i gyhoeddi llythyr cynhwysfawr i Carwyn Jones ar Ragfyr 10 yn dilyn cyfarfod roeddwn wedi ei gael ag ef ychydig ddyddiau ynghynt."
'Dim tystiolaeth'
Ddydd Mawrth yn y Senedd, roedd y Prif Weinidog wedi ymosod ar sylwadau roedd AS Cwm Cynon wedi ei wneud ynglŷn â gofal roedd cleifion wedi ei dderbyn mewn ysbytai yng Nghymru.
Roedd Mr Jones wedi dweud: "Dydy Ann Clwyd heb gyflwyno tystiolaeth na ffeithiau.
"Rwyf wedi gofyn iddi, mae'r gweinidog iechyd wedi gofyn iddi.
"Dyw hi ddim wedi cyflwyno unrhyw beth, dim ond sylwadau dienw na ellir eu priodoli, dy'n ni ddim yn gwybod o ble y daethon nhw, p'un ai ydyn nhw'n gywir ai peidio, does dim modd ymchwilio.
"Rwy'n ofni ein bod wedi gofyn iddi ar fwy nag un achlysur i gyflwyno'r dystiolaeth i gefnogi ei honiadau, rwyf wedi gwneud hyn, mae'r gweinidog iechyd wedi gwneud hyn, rydw i wedi gwneud yn bersonol ac yn ysgrifenedig, dydy hi heb wneud hynny. "
Daw sylwadau diweddaraf Ms Clwyd ddiwrnod ar ôl iddi alw ar brif weithredwr a chadeirydd Bwrdd Iechyd Caerdydd a'r Fro i ymddiswyddo, gan honni eu bod nhw wedi rhyddhau manylion preifat am achos ei diweddar ŵr, Owen Roberts.
Mae'r bwrdd iechyd wedi cydnabod eu bod nhw wedi rhyddhau peth gwybodaeth am achos Mr Roberts, ond maen nhw'n gwadu eu bod nhw wedi torri rheolau cyfrinachedd.
Dywedon nhw fod y manylion gafodd eu rhyddhau eisoes yn gyhoeddus a'u bod yn rhan o'r ymchwiliad gwreiddiol i'r farwolaeth - ond mae Ann Clwyd yn dadlau ei bod hi wedi gwrthod rhoi caniatâd i'r wybodaeth gael ei ryddhau eisoes.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd18 Mawrth 2014
- Cyhoeddwyd4 Rhagfyr 2012