Carwyn Jones yn beirniadu sylwadau'r AS Ann Clwyd

  • Cyhoeddwyd
Prif Weinidog Cymru Carwyn JonesFfynhonnell y llun, (C) British Broadcasting Corporation
Disgrifiad o’r llun,

Fe wnaeth Carwyn Jones ei sylwadau yn ystod Sesiwn Holi'r Prif Weinidog ddydd Mawrth

Mae Prif Weinidog Cymru Carwyn Jones wedi beirniadu Aelod Seneddol Llafur am y tro cynta' yn dilyn ei beirniadaeth o'r Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru.

Yn ystod Sesiwn Holi'r Prif Weinidog yn y Senedd ddydd Mawrth, dywedodd Mr Jones nad oedd Ann Clwyd wedi cyflwyno tystiolaeth gadarn ynglyn â chwynion y mae hi wedi eu derbyn am safon y gofal a'r gwasanaeth.

Roedd AS Cwm Cynon wedi beirniadu'r gofal a roddodd nyrsys i'w ddiweddar ŵr yn Ysbyty Athrofaol Cymru yng Nghaerdydd, cyn iddo farw o niwmonia ar ddiwedd 2012.

Y llynedd cafodd Ann Clwyd ei chomisiynu i gynnal adolygiad o'r Gwasanaeth Iechyd yn Lloegr, a dywedodd ei bod yn gobeithio y byddai'r argymhellion yn cael eu mabwysiadu yng Nghymru hefyd.

'Dim tystiolaeth na ffeithiau'

Meddai Carwyn Jones ddydd Mawrth: "Dydy Ann Clwyd heb gyflwyno tystiolaeth na ffeithiau."

"Rwyf wedi gofyn iddi, mae'r gweinidog iechyd wedi gofyn iddi.

"Dyw hi ddim wedi cyflwyno unrhyw beth, dim ond sylwadau dienw na ellir eu priodoli, dy'n ni ddim yn gwybod o ble y daethon nhw, p'un ai ydyn nhw'n gywir ai peidio, does dim modd ymchwilio.

"Rwy'n ofni ein bod wedi gofyn iddi ar fwy nag un achlysur i gyflwyno'r dystiolaeth i gefnogi ei honiadau, rwyf wedi gwneud hyn, mae'r gweinidog iechyd wedi gwneud hyn, rydw i wedi gwneud yn bersonol ac yn ysgrifenedig, dydy hi heb wneud hynny. "

Pan ofynnodd arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, Andrew RT Davies, ynglŷn â sylwadau Ann Clwyd am restrau aros y Gwasanaeth Iechyd, dywedodd Mr Jones:

"Mae gen i ofn fod Ann wedi selio ei honiadau ar y driniaeth gafodd ei gŵr

"Mae wedi gwrthod caniatáu cyhoeddi'r adroddiad yn ymwneud â thriniaeth ei gŵr.

"Rwy'n credu ei bod yn bwysig i bobl benderfynu ar sail y ffaith bod yr adroddiad yn cael ei gyhoeddi ond mae hynny'n fater i eraill ar ddiwedd y dydd."

'Ddim yn hapus'

Yn ei hymateb i sylwadau'r Prif Weinidog, dywedodd Mrs Clwyd:

"Y gwir amdani yw fy mod i wedi anfon llawer o wybodaeth i'r Prif Weinidog a'r Gweinidog Iechyd yng Nghynulliad Cymru, a hefyd i Aelodau Cynulliad - tystiolaeth o'r pryderon mawr sydd am berfformiad y GIG yng Nghymru.

"Dw i hefyd wedi cyfarfod gyda Carwyn Jones a Mark Drakeford i ymhelaethu'n bellach am y pryderon hynny.

"Yn ychwanegol i'r data ystadegol, fe wnes i anfon crynodeb o'r pryderon gafodd eu hanfon i mi ar ffurf llythyr gan gannoedd o gleifion Cymraeg. Yn amlwg, mae'n rhaid i'r cleifion hynny aros yn anhysbys os nad ydyn nhw'n rhoi eu caniatâd i gyhoeddi eu henwau.

"Fodd bynnag, dydw i ddim yn hapus am y sylw amherthnasol a diofal am achos fy ngwr mewn cylchoedd gwleidyddol a phroffesiynol. Mae fy nghwyn am y mater yn parhau, dydy hi heb ei datrys hyd yn hyn. Yn ogystal, mae achos fy ngwr lawer yn llai pwysig na'r cannoedd o lythyrau sydd wedi eu hanfon yn ei sgîl, a'r rheiny sydd wedi cal profiadau tebyg i mi, yn ôl pob golwg.

"Fe fyddai'n llawer gwell gen i weld y Cynulliad yn poeni am ddatrys yr argyfwng presennol yn y GIG yng Nghymru nag ymosod arna'i yn bersonol."