Amddiffynfeydd ddim yn ddigonol

  • Cyhoeddwyd
Llifogydd Llanelwy
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd 500 o dai eu heffeithio gan lifogydd yn sir Ddinbych y llynedd.

Doedd amddiffynfeydd llifogydd yn Sir Ddinbych ddim mor gryf â'r disgwyl, yn ôl adroddiad am lifogydd difrifol yn Llanelwy'r llynedd.

Cafodd 500 o dai eu heffeithio a bu farw un ddynes yn ei chartref pan orlifodd afonydd Elwy a Chlwyd ym mis Tachwedd.

Mae'r adroddiad yn dweud bod angen £5 miliwn i adeiladu amddiffynfeydd newydd i Lanelwy.

Bydd Cyfoeth Naturiol Cymru yn ceisio diogelu'r ardal dros dro nes bod yr amddiffynfeydd yn cael eu hadeiladu.

Ddim mor gryf

Bydd cynghorwyr yn trafod yr adroddiad ac argymhellion ar gyfer strategaeth llifogydd ddiwygiedig.

Daeth ymchwiliad y cyngor sir a Chyfoeth Naturiol Cymru i'r casgliad nad oedd yr amddiffynfeydd mor gryf â'r hyn yr oedd Cyngor sir Ddinbych yn ei gredu.

Y gred oedd bod risg o 1 mewn 100 na fyddai'r amddiffynfeydd yn gweithio ond mae'r adroddiad wedi dweud bod y risg yn 1 mewn 30.

Dywedodd yr adroddiad fod y llifogydd wedi digwydd oherwydd glaw trwm, parhaol ar dir gwlyb.

£180m

Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud eu bod yn buddsoddi £180m wrth geisio rheoli llifogydd ac erydu'r arfordir.

"Rydym yn gwybod am bryderon cynghorwyr yn Sir Ddinbych ac mae Alun Davies, Gweinidog Cyfoeth Naturiol, yn fodlon cwrdd â chynghorwyr a Chyfoeth Naturiol Cymru er mwyn trafod cydweithio fel y gallwn leihau risg llifogydd yn y sir," meddai.

Bydd adroddiad gwahanol am lifogydd ar Stad Dai Glasdir yn Rhuthun yn cael ei gyhoeddi ym mis Medi.