Disgwyl cyhoeddi Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus newydd

  • Cyhoeddwyd

Mae disgwyl y bydd Nick Bennett yn cael ei enwi fel Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus newydd Cymru.

Ar hyn o bryd mae Nick Bennett yn gweithio fel prif weithredwr Cartrefi Cymunedol Cymru.

Fe aeth Mr Bennett o flaen Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol y Cynulliad ddydd Llun mewn sesiwn dystiolaeth fel yr ymgeisydd oedd wedi ei ffafrio ar gyfer y swydd.

Mae disgwyl i aelodau'r Cynulliad bleidleisio yn ffurfiol ar benodiad Nick Bennett mewn sesiwn lawn o'r Cynulliad brynhawn Mercher, Ebrill 2, pan fydd y penodiad yn dod yn un swyddogol.

Wrth siarad gyda Newyddion BBC Cymru Arlein ddydd Mawrth fe ddywedodd Mr Bennett: ''Rwy'n edrych ymlaen yn fawr iawn at fy swydd newydd. Mae'n gyfnod heriol iawn i ddyfodol gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru. Fy mwriad ydi parhau gyda gwaith da fy rhagflaenydd Peter Tyndall.

''Y brif sialens ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru ydi y bydd llai o arian ar gael yn y dyfodol, ac fe fydd y nifer o bobl sydd dros 65 oed yn cynyddu 30% yn y degawd nesaf.''

Mae Mr Bennett wedi bod yn brif weithredwr gyda Cartrefi Cymunedol Cymru ers 2006. Cyn hynny roedd yn gweithio i gwmni cysylltiadau Bute am ddwy flynedd, ar ôl gweithio fel ymgynghorydd arbennig i Lywodraeth Cymru rhwng 2000 a 2002.

Pwerau

Yn enedigol o Ynys Môn, fe raddiodd o Brifysgol Aberystwyth yn 1991. Fe fu'n ymgeisydd ar ran y Democratiaid Rhyddfrydol yn Ynys Môn yn etholiadau'r Cynulliad yn 2003.

Ar hyn o bryd Margaret Griffiths yw'r Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru Dros Dro, ers i Peter Tyndall adael y swydd ym mis Tachwedd 2013 er mwyn gweithio fel Ombwdsmon a Chomisiynydd Gwybodaeth Gweriniaeth Iwerddon.

Mae gan Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru bwerau cyfreithiol i ymchwilio i gwynion am wasanaethau cyhoeddus yng Nghymru.

Gall yr Ombwdsmon hefyd edrych i gwynion fod aelodau llywodraeth leol wedi torri cod ymddygiad eu hawdurdod.

Mae'n annibynnol oddi wrth bob corff llywodraethol.