Cynllun gwerth £3m i weddnewid marchnad Wrecsam

  • Cyhoeddwyd
Butchers' Market, WrexhamFfynhonnell y llun, Richard Hoare
Disgrifiad o’r llun,

Mae pryder wedi bod am ddyfodol tymor hir marchnadoedd yn Wrecsam

Bydd cynghorwyr yn trafod cynlluniau i weddnewid marchnadoedd yn Wrecsam - gydag atyniadau diwylliannol a gweithgareddau gyda'r nos.

Mae'r cynnig ar gost o £3 miliwn yn golygu agor tai bwyta a bariau yn y Farchnad Gyffredinol a chanolfan ddiwylliannol ym Marchnad y Bobl. Bydd Marchnad y Bwtsiar yn cadw'r stondinau traddodiadol.

Fe gynhaliwyd astudiaeth oherwydd pryderon am y nifer o stondinau gwag yn y marchnadoedd ac mae rhai masnachwyr wedi croesawu ymdrechion i hybu'r marchnadoedd.

Cafodd Marchnad y Bwtsiar ei hagor yn 1848 a'r Farchnad Gyffredinol yn 1879 - gyda'r ddau yn adeiladau cofrestredig Gradd II - ac fe agorodd Marchnad y Bobl yn 1992.

Astudiaeth

Oherwydd cwymp yn nifer y stondinau llawn o 90% i 70% fe wnaeth rheolwyr argymell yn Chwefror 2013 i gau'r Farchnad Gyffredinol yn rhannol a symud stondinwyr i'r ddau adeilad arall.

Ond gwrthodwyd hynny gan gynghorwyr oedd o blaid ail-fuddsoddi a hybu mwy ar y marchnadoedd tra'n gorchymyn astudiaeth i'r dewisiadau tymor hir.

Mae cwmni ymgynghorwyr Quarterbridge wedi adrodd yn ôl gyda chynllun i weddnewid y marchnadoedd a'u defnydd er mwyn sicrhau eu dyfodol, sy'n cynnwys :-

  • Cwtogi nifer y stondinau ym Marchnad y Bobl er mwyn gwneud lle am ganolfan diwylliannol a chelfyddydol gwerth £1.4m;

  • Newid ffocws i Farchnad Gyffredinol a chynnwys bariau a thai bwyta er mwyn adfywio economi gyda'r nos ar gost o £729,000;

  • Cadw Marchnad y Bwtsiar fel marchnad draddodiadol, gan fuddsoddi £890,000 yno, a rhoi mwy o bwyslais ar gynnyrch ffres, lleol.

Ond dywedodd cynrychiolwyr masnachwyr y marchnadoedd wrth swyddogion y cyngor mewn cyfarfod ym mis Chwefror eu bod yn amau'r cynlluniau ac yn pryderu y byddai rhenti'n codi er mwyn talu am y buddsoddiad.

'Anhrefn wrth adeiladu'

Dywedodd Barry Williams, ysgrifennydd cangen Wrecsam Ffederasiwn Cenedlaethol Masnachwyr Marchnad: "Ym mis Medi fe gawson ni dîm newydd sydd wedi gwneud mwy i ni mewn chwe mis nag yn y deng mlynedd diwethaf.

"Rydym yn gytun nad oes modd cael canolfan ddiwylliannol drws nesaf i farchnad - fe fyddai anhrefn wrth adeiladu'r lle a dydw i ddim yn credu y byddai llawer o ddefnydd pan fydd ar agor.

"Rwy'n dal i gredu fod pobl Wrecsam eisiau marchnad nid canolfan ddiwylliannol."

Dywedodd y cwmni ymgynghori y byddai'n anodd cyfiawnhau cost y gwaith mewn termau masnachol, ond y byddai cyllid grantiau ar gael i gynllun fel canolfan ddiwylliannol.

Pwyllgor Craffu Cyflogaeth, Busnes a Buddsoddiad y cyngor sy'n trafod y mater ddydd Mercher cyn gwneud argymhellion i weithgor y cyngor.