'Celf hynaf Cymru' yn dychwelyd i Landudno
- Cyhoeddwyd

Mae'r asgwrn o bwysigrwydd rhyngwladol yn ôl arbenigwyr
Mae darn o asgwrn gên ceffyl, sydd wedi ei ddisgrifio fel y gwaith celf hynaf yng Nghymru, yn dychwelyd i'r dref lle cafodd ei ddarganfod.
Bydd yr asgwrn 13,000 o flynyddoedd oed yn ganolbwynt i arddangosfa newydd sydd yn cofnodi Llandudno yn Oes yr Iâ.
Cafodd yr asgwrn, sydd wedi ei addurno gyda chrafiadau bychain, ei ddarganfod mewn ogof ar Ben y Gogarth yn 1870 gan gloddiwr copr oedd wedi ymddeol.
Dywedodd Dr Jill Cook o'r Amgueddfa Brydeinig ei fod yn ''arbennig iawn'' i aduno'r darn gyda gwrthrychau prin eraill oedd wedi eu darganfod yn y dref.
Mae'r asgwrn wedi bod yn Llundain fel rhan o arddangosfa'r Amgueddfa Brydeinig ar Oes yr Iâ ers iddo gael ei ddarganfod tua 140 o flynyddoedd yn ôl.
Mae gwaith ymchwil newydd gan yr Amgueddfa Brydeinig yn dangos fod y gwaith celf, ynghyd â gwrthrychau eraill ddaeth i'r golwg yn Llandudno, wedi bod yn eiddo i bobl ddaeth i Brydain rhwng 13,000 a 14,000 o flynyddoedd yn ôl.
Daeth y gwrthrychau i ogledd Cymru gyda thlysau wedi eu cerfio o ddannedd eirth, ceirw a gwartheg sydd yn cydfynd a phatrymau ar ddarnau sydd wedi eu darganfod yng Ngwlad Belg a Ffrainc.
Arddull unigryw
Ond mae gan y darnau o Landudno eu harddull unigryw eu hunain meddai arbennigwyr, sydd wedi ei amlygu ar y crafiadau ar yr asgwrn gên ceffyl ac asgwrn o droed carw.
Yn ystod y cyfnod hwn nid oedd y môr yn amgylchynu Pen y Gogarth.
Cafodd sgerbydau tri oedolyn a pherson ifanc eu darganfod yn yr ogof sydd yn cael ei hadnabod fel Ogof Kendrick. Fe allai lleoliad y sgerbydau awgrymu fod yr ogof yn enghraifft prin o siambr gladdu o Oes yr Iâ.
Cafodd esgyrn anifeiliaid eraill oedd wedi eu haddurno a'u darganfod yn Llandudno eu benthyg i Amgueddfa Llandudno gan Amgueddfa Cymru hefyd.
Ogof Kendrick
Daeth Thomas Kendrick, mwyngloddiwr copr oedd wedi ymddeol, o hyd i'r esgyrn ar ddamwain yn 1870. Arferai ddefnyddio ogof ar Ben y Gogarth fel gweithdy i baratoi cregyn er mwyn eu gwerthu i dwristiaid y dref.
Dywedodd Dr Jill Cook fod y gwrthrychau o bwysigrwydd rhyngwladol.
''Mae'r asgwrn gên ceffyl wedi ei addurno yn ein hatgoffa o'n hen hanes.'' meddai.
"Fel arfer mae'n cael ei arddangos yn yr Amgueddfa Brydeinig gyda chelfyddyd o Oes yr Iâ o Ffrainc. Mae gweld y darn wedi ei aduno gyda darnau eraill prin o Ben y Gogarth yn arbennig iawn ac yn ddechreuad gwych i gynlluniau Llandudno i ddatblygu ei amgueddfa.''
Cafodd y gwrthrychau eu harddangos yn y dref ddiwethaf yn 2008 a 2010.
Dywedodd Roy Haley, cadeirydd Amgueddfa Llandudno: ''Rydym yn falch iawn o allu croesawu'r gwrthrych prin hwn sydd o bwysigrwydd rhyngwladol yn ôl i Landudno.
''Diolch i gefnogaeth cynllun Ein Treftadaeth, rydym wedi derbyn y cyfle i arddangos casgliad o'r radd flaenaf sydd yn gymorth i adrodd hanes Llandudno - ac rydym yn gobeithio gweld llawer mwy o ymwelwyr o ganlyniad.''
Dywedodd Phil Edwards, aelod cabinet Cyngor Conwy dros gymunedau: ''Mae gwrthrychau o Ogof Kendrick yn cynnig cip olwg unigryw a rhyfeddol ar ein hanes pell yma yn Llandudno.''
Mae arddangosfa Llandudno Oes yr Iâ ar agor tan Medi 30.

Bydd esgyrn traed ceirw wedi eu haddurno i'w gweld yn yr arddangosfa hefyd.

Credir fod pobl yn byw ar Ben y Gogarth 14,000 o flynyddoedd yn ôl