Ymwelwyr yn heidio i Gymru dros y Pasg

  • Cyhoeddwyd
Rhossili BayFfynhonnell y llun, National Trust
Disgrifiad o’r llun,

Mae pobl wedi bod yn heidio i draethau fel Rhosili am fod y tywydd wedi bod yn braf

Mae'r haul wedi bod yn tywynnu yng Nghymru dros benwythnos y Pasg a diolch amdano mae'r diwydiant twristiaeth.

Dyma yn draddodiadol yw'r cyfnod pan fo'r tymor gwyliau yn dechrau i bobl sy'n gweithio yn y diwydiant twristiaeth.

Roedd y llynedd yn flwyddyn dda i Gymru gyda mwy o ymwelwyr o Brydain na'r flwyddyn flaenorol. Mae'r ffigyrau diweddara yn awgrymu bod twristiaid wedi gwario ryw £1.7 biliwn yng Nghymru yn 2013 ac mae'r llywodraeth yn ffyddiog y bydd 2014 yn flwyddyn arall lewyrchus.

'Ciwio am gan llath'

Os bydd pethau'n para fel y gwnaeth hi ddydd Gwener a dydd Sadwrn i Tony Green fydd dim angen iddo fo boeni.

Mae o a'i wraig yn rhedeg y Red Boat Ice Cream Parlour ym Miwmares. "Dydd Gwener a Sadwrn oedd y dyddiau prysuraf i ni erioed, nid jest ym mis Ebrill ond trwy'r flwyddyn," meddai.

Mae'n dweud bod pobl o bob oed wedi bod yn dod trwy'r drws, a bod 4 kg o hufen ia wedi bod yn cael ei orffen o fewn hanner awr. "Oedd y ciw dydd Sadwrn yn mynd allan o'r drws ac i lawr y stryd ac am ryw 100 llath," ychwanegodd.

Penwythnos prysur y mae Meinir Bowen wedi ei gael hefyd yng Ngwesty'r Castell yn Aberaeron:"Ma'r tywydd wedi bod yn lot o help. Ma pobl wedi bod yn llwyddiannus gyda hynny."

O bob man mae'r ymwelwyr wedi bod yn dod meddai ac mae wedi bod yn llawn trwy'r gwyliau: "Ma nhw yn dod fan hyn, mynd lawr i Cei Newydd, rhai yn mynd ar y Llwybr Arfordirol neu fynd i Mwnt ac wedyn dod nôl 'ma ar ddiwedd y diwrnod."

'Lot o Gymru'

Un ffactor yw'r tywydd meddai Iain Roberts. Mae'r gŵr sydd yn berchennog Gwesty Tŷ Newydd yn Aberdaron hefyd yn dweud bod yna buzz o gwmpas y pentref ar lan y môr a bod hynny yn denu pobl yno.

Mae 'na newidiadau wedi bod yn digwydd yno yn ddiweddar gan gynnwys adnewyddu'r becws lleol.

"Dw i'n meddwl ar y funud bod Aberdaron y lle da i ddod. 'Da ni di bod yn cael pobl o Lerpwl a Manceinion ond 'da ni rŵan hefyd yn cael lot o Gymru yn dod.

"Yn y ddwy, dair blynedd ddiwedda da ni di cael mwy o Gymru a phobl ddim yn dod o bell chwaith, pobl yn campio am y penwythnos o Port, Caernarfon."