Mwy o ymwelwyr i Gymru yn 2013

  • Cyhoeddwyd
Twristiaeth
Disgrifiad o’r llun,

Mae gweithgareddau awyr agored yn Eryri a Gwynedd yn boblogaidd.

Roedd 2013 yn flwyddyn dda i dwristiaeth yng Nghymru gyda chynnydd yn nifer yr ymwelwyr.

Ym Mhrydain gyfan roedd gostyngiad yn nifer a gwariant ymwelwyr domestig.

Yn ôl Arolwg Twristiaeth Prydain Fawr, gwnaed 9.93 miliwn o deithiau gan Brydeinwyr i Gymru yn 2013, 3.4% yn fwy nag yn 2012 (9.60 miliwn).

Gwnaeth Cymru'n well na Phrydain lle oedd tripiau i lawr 2.5% o'u cymharu â 2012.

Cynyddodd gwariant yr ymweliadau hyn â Chymru hefyd bron 7% gydag ymwelwyr yn gwario £1.7 biliwn yn ystod eu gwyliau yng Nghymru yn 2013.

Roedd gostyngiad o bron 3% yn y gwariant ar dripiau i Brydain gyfan.

£35m

Cyhoeddwyd y ffigurau yn ystod ymweliad y Gweinidog Twristiaeth, Edwina Hart, â Sir Benfro i agor yr A477 newydd a mynd i Ganolfan Traeth Coppet Hall a'r Bwyty 'Coast' ger Saundersfoot ac agor datblygiadau yng Nghlwb Golff Dinbych-y-Pysgod.

Mae Canolfan Traeth Coppet Hall yn rhan o brosiect £35 miliwn 'Amgylchedd ar gyfer Twf' yr UE i wella cyfleusterau a phrofiadau i ymwelwyr ar hyd arfordir Cymru.

Hyd yn hyn mae'r rhan hon o'r arfordir, sy'n eiddo i Ystad Hean Castle, wedi bod yn faes parcio a chyfleuster traeth am fwy na hanner canrif.

Mae'r ganolfan wedi cael ei hadeiladu ers bron blwyddyn ac fe fydd yn cyflogi 13 o bobl, gan gynyddu i 30 yn ystod misoedd prysuraf yr haf.

'Hwb i'r diwydiant'

Bydd bwyty 'Coast', dderbyniodd £34,000 trwy Gynllun Cymorth Buddsoddi mewn Twristiaeth Croeso Cymru, yn agor Ddydd Llun y Pasg.

Mae'n un o'r 34 o fusnesau gafodd rannu mwy na £2 miliwn o arian y cynllun yn 2013-14 gan roi'r potensial i greu neu ddiogelu rhyw 250 o swyddi yn y sector twristiaeth.

Dywedodd y gweinidog: "Bydd y ffigurau hyn yn rhoi hwb i'r diwydiant twristiaeth yng Nghymru ar drothwy dechrau traddodiadol y tymor ymwelwyr.

"Gobeithio y gallwn adeiladu ar lwyddiant y llynedd a gweithio gyda'n gilydd i sicrhau'r twf o 10% yr anelir ato yn strategaeth twristiaeth Cymru."