Shakespeare i'r Gymraeg?
- Cyhoeddwyd
Ddydd Mercher bydd dathliadau swyddogol o fywyd William Shakespeare yn cael eu lansio yn ei dre' enedigol, Stratford-upon-Avon.
Mae'n 450 o flynyddoedd ers i'r Bardd Mawr gael ei eni, ond mae'n parhau'n un o'r ysgrifenwyr mwya' dylanwadol erioed.
"He was not of an age, but for all time" - dyna eiriau un o gyfoedion Shakespeare, y dramodydd Ben Jonson — a phedair canrif a hanner yn ddiweddarach, mae'n ymddangos ei fod yn llygad ei le.
Ond faint o sylw sydd 'na i'w waith yng Nghymru, ac yn y Gymraeg yn benodol?
Theatr Genedlaethol
Mae 'na enghreifftiau o'i farddoniaeth i'w gweld yn y Gymraeg, gan gynnwys Soned 104, a gafodd ei haddasu gan yr Athro Peredur Lynch o Ysgol y Gymraeg Prifysgol Bangor, ar gyfer Gŵyl Globe to Globe Theatr y Globe yn Llundain.
Mae rhai fel Gwyn Thomas a Gwyneth Lewis wedi cyfieithu rhai o'i ddramâu i'r Gymraeg, a chafodd un o'r dramâu mwya' poblogaidd, efallai - Romeo and Juliet- ei throsi gan T. J. Jones yn 1983. Y cyfieithiad hwnnw oedd un o gynhyrchiadau cynta' Theatr Genedlaethol Cymru yn 2003.
Ond faint o awydd neu angen sydd 'na, mewn gwirionedd, i gyfieithu gweithiau bydenwog fel Romeo a Juliet i unrhyw iaith arall? Wedi'r cyfan, mae nifer o'r stoïau yn gyfarwydd, a byddai rhai yn dadlau fod grym a hyfrydwch y gweithiau'n deillio'n uniongyrchol o'r iaith wreiddiol.
Ar y llaw arall, fe allai'r ffordd mae'r gwaith wedi ei drosi gan y cyfieithydd ysgogi chwilfrydedd ar ran y gynulleidfa - yn enwedig os yw'r cyfieithiad yn cynnig golwg wahanol i'r gwreiddiol.
'Angen parchu'r gwreiddiol'
Dywedodd y dramodydd a'r beirniad theatr Paul Griffiths wrth Cymru Fyw:
"'Dw i ddim yn meddwl y byddwn i'n croesawu llwyfanu'r gwaith yn y Gymraeg dim ond er mwyn ei gael yn y Gymraeg. Ond eto, dwi wrth fy modd yn gweld cyflwyniadau sydd 'efo gwedd newydd yn y Gymraeg. Ar yr un pryd, mae angen parchu'r iaith a'r gwaith gwreiddiol.
"Ond mae'n gallu gweithio pan mae rhywun yn arbrofi 'efo'r deunydd - er enghraifft, weles i gwmni o Felarws yn perfformio'r Brenin Llŷr - do'n i ddim yn deall gair o'r iaith ond ro'n i'n deall yr ystyr ac arwyddocad yr hyn oedd yn cael ei gyfleu.
"Mae modd i'r negeseuon yn y dramâu ddweud rhywbeth wrthon ni am y byd 'da ni'n byw ynddo heddiw. Mae gwaith Shakespeare yn hanesyddol - roedd y dramâu fel operâu sebon eu cyfnod, a phobl yn mynd i'r theatr i ddysgu hanes a beth oedd yn digwydd yn y byd."
Gwell yn y famiaith?
Un sydd wedi perfformio nifer fawr o ddramâu Shakespeare yw'r actor o Gymru, Daniel Evans, fu'n aelod o'r Royal Shakespeare Company ar un adeg ac sydd bellach yn gyfarwyddwr artistig gyda theatr y Crucible yn Sheffield.
"Dydw i ddim wedi ymdrin yn aml gyda Shakespeare yn y Gymraeg," meddai wrth Cymru Fyw.
"Trueni i ddweud y gwir, gan fod cyfieithiadau fel un T.J. Jones yn hyfryd ac yn gallu rhagori weithiau ar y gwreiddiol. Chi'n gweld clyfrwch y geiriau, fel mae e'n gallu cyfleu ystyr yn gynnil.
"Dyw e ddim yn syniad newydd, cyfieithu Shakespeare, wrth gwrs - mae actorion o Rwsia'n tueddu i ddweud bod y cyfieithiadau Rwsieg yn rhagori ar y gwreiddiol pob tro.
"Mae'r ffaith bod rhywun yn clywed y gwaith yn eu mamiaith yn siwr o fod yn rhywbeth i wneud ag e.
"Roedd T.J. Jones wedi gallu cyfleu ystyr drwy ddefnyddio geiriau anarferol, ond hefyd geiriau sy'n ein synnu ni fel darllenwyr neu gynulleidfa. Mae'r syndod parhaol yna'n rhoi boddhad.
"Mae'r gwaith yn mynd i fod ychydig yn wahanol, wrth gwrs, gan fod hi'n iaith wahanol. Ond weithiau mae modd crynhoi rhywbeth yn fwy manwl a chynnil wrth ei gyfieithu - yn aml mae 'na eiriau 'da chi ddim yn eu disgwyl."
Dysgu am ein bywyd
Ychwanegodd Mr Evans: "Rwy'n siŵr bod yr elfen economaidd yn un ffactor pam bod y dramâu ddim yn cael eu perfformio'n amlach yng Nghymru. Ry'ch chi angen cwmnïau mawr yn aml, angen cast mawr, set mawr a llawer o wisgoedd ac ati.
"Efallai nad yw cynhyrchwyr yn teimlo bod yr archwaeth yno ymhlith y gynulleidfa. Ar y llaw arall, mae 'na lawer o arbrofi'n digwydd yn Lloegr gyda gwaith Shakespeare - does dim rheswm pam na alla' ni wneud hynny yng Nghymru hefyd.
"Hefyd mae 'na berygl mewn dim ond gwneud gweithiau Cymraeg - wrth gwrs, mae hynny'n bwysig ac mae angen edrych ar ddramâu newydd a magu dramodwyr newydd.
"Ond mae 'na bethau'n digwydd ar draws y byd i gyd - ac os oes gwerth adfywio drama oherwydd ei bod hi'n dysgu rhywbeth i ni am y ffordd ry'n ni'n byw nawr, wel does dim ots ym mha iaith mae hynny."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd14 Mawrth 2014
- Cyhoeddwyd8 Awst 2012
- Cyhoeddwyd7 Awst 2012