Adroddiad wedi codi pryderon am addysg ers chwe blynedd

  • Cyhoeddwyd
Dosbarth ysgolFfynhonnell y llun, PA

Mae BBC Cymru wedi gweld adroddiad cyfrinachol a ysgrifennwyd chwe blynedd yn ôl oedd yn codi pryderon am addysg yng Nghymru.

Mae'r gwrthbleidiau yn y Cynulliad ac undebau athrawon yn anhapus bod nifer o'r materion a godwyd yn 2007 hefyd yn codi mewn adroddiad gan y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd (OECD) a gyhoeddwyd yn gynharach y mis hwn.

Dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod yn cydnabod problemau'r blynyddoedd diwethaf, ond eu bod yn canolbwyntio ar "strategaeth gwella ysgolion i'r tymor hir".

Mae'r adroddiad o 2007, a ysgrifennwyd gan yr Athro Richard Daugherty ar gyfer y gweinidog addysg ar y pryd, Jane Davidson, yn cyfeirio at ddiffyg "set gyson o negeseuon ynghylch egwyddorion y cwricwlwm ac addysg".

'Dim effaith ar gyrhaeddiad'

Mae'r adroddiad hefyd yn son am "strategaethau sydd wedi rhedeg eu cwrs heb i'r effaith ar gyrhaeddiad myfyrwyr nac effeithlonrwydd y model gael eu gwerthuso'n llawn."

Er bod iaith nifer o'r dogfennau polisi a archwiliwyd yn "briodol o uchelgeisiol", doedd yr uchelgeisiau hynny ddim bob amser yn troi yn ganlyniadau disgwyliedig penodol.

Mae'n awgrymu mai'r hyn oedd ei angen ar y pryd oedd nifer bychan o raglenni gwaith wedi eu mynegi mewn modd y gallai athrawon, ysgolion ac awdurdodau lleol ymrwymo iddyn nhw, a gyda thargedau gwelliant clir.

Dywedodd fod cyrsiau hyfforddi athrawon "yn dal i ddilyn modelau o'r 1990au cynnar sy'n canolbwyntio ar feithrin cymhwyseddau; dydyn nhw ddim eto wedi eu hail gynllunio i gwrdd ag anghenion y system ysgolion yng Nghymru.

Mae'n argymell y dylai Llywodraeth y Cynulliad fel yr oedd hi ar y pryd wahodd yr OECD i gwblhau adolygiad o'r system addysg yng Nghymru gyda thrafodaethau ynghylch y cylch gorchwyl i adlewyrchu blaenoriaethau'r llywodraeth.

Problemau'n parhau

Bum mlynedd ar ôl i'r adroddiad gael ei gyflwyno i'r llywodraeth, pan oedd Leighton Andrews yn weinidog addysg, goffynnwyd i'r OECD adolygu'r system addysg.

Mae'r gwrthbleidiau yn y Cynulliad ac undebau athrawon yn bryderus fod nifer o'r materion a godwyd yn yr adroddiad yn 2007 yn dal yn bresennol yn adroddiad yr OECD yn 2014.

Dywedodd llefarydd addysg Plaid Cymru, Simon Thomas AC: "Yn gyntaf oll dwi'n meddwl bod rhai o'r argymhellion ddim yn taro deuddeg gyda beth oedd y llywodraeth yn ei deimlo ar y pryd...bod pobl yn meddwl rhywsut bod y gyfundrefn addysg yng Nghymru yn iachus iawn.

"Ni'n gwybod erbyn hyn fod rhai o'r gwendidau ni'n gweld yn amlwg nawr eisoes yn bodoli saith mlynedd yn ôl."

Ychwanegodd: "Yn ail yw bod y llywodraeth yn barod i gydio yn rhai o'r gwersi yma, achos oedden nhw'n bethau oedd yn teimlo'n gysurus iddyn nhw, neu bethau oedd yn atgyfnerthu eu teimladau fel petai, a dwi'n meddwl fod hynny yn beth peryg mewn gwleidyddiaeth."

'Diffyg gweithredu ar ei waethaf'

Dywedodd llefarydd addysg y Ceidwadwyr, Angela Burns AC bod yr adroddiad yn amlygu "yr un problemau, yn pwyntio at yr un methiannau, yr un bylchau yn ein prosesau a system".

"Ac eto, dydy Llywodraeth Cymru, o fod wedi gwybod am yr holl broblemau am ryw chwe blynedd a hanner, ond nawr yn gofyn i'r OECD edrych ar y sefyllfa.

"Mae'n dweud yn glir, 'dylwn uno ein holl adrannau addysg i greu un corff dealladwy', pam nad ydyn nhw (Llywodraeth Cymru) wedi gwneud hynny?

"Dyma ddiffyg gweithredu ar ei waethaf, ac anallu, ac mae wedi gadael pawb yng Nghymru i lawr."

Yn ôl Aled Roberts, llefarydd y Democratiaid Rhyddfrydol Cymru ar addysg: ''Chwe blynedd yn ddiweddarach ac mae'r un broblem yn parhau. Mae na ddiffyg cysondeb a gweledigaeth tymor-hir yn dal yn bodoli. Mae'r newidiadau cyson mewn polisi wedi gadael ein system addysg heb unrhyw gysondeb ac mae wedi gadael cenhedlaeth o bobl ifanc i lawr.

Ychwanegodd: "Mae'n rhaid i Lywodraeth Cymru beidio â cheisio dod o hyd i nifer o atebion dros dro a chael y dewrder gwleidyddol i gymryd un cynllun cynaliadwy a'i ddilyn i'r pen.''

'Agenda diwygio fanwl'

Yn ymateb, dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru:

"Rydyn ni'n gwybod fod problemau safonau a pherfformiad yn ein hysgolion yn y blynyddoedd diwethaf a dyna'r rheswm yr ydyn ni wedi gweithredu agenda ddiwygio fanwl.

"Yn ddiweddar, fe wnaethon ni groesawu adroddiad yr OECD gafodd ei gomisiynu gan Lywodraeth Cymru, y prif ganfyddiad oedd y dylai Cymru barhau i ganolbwyntio ar strategaeth gwella ysgolion i'r tymor hir.

"Dyna yr ydyn yn ei wneud.

"Rydyn ni'n dechrau gweld canlyniadau hynny ac yn gwneud cynnydd yn enwedig o amgylch perfformiad arholiadau. Mae hynny'n newyddion da i ddysgwyr yng Nghymru."

Mae Owen Hathaway o undeb NUT Cymru yn pryderu am y ffaith nad yw nifer o argymhellion i weld wedi eu gweithredu.

"Beth na allwn ni adael i ddigwydd yw hunanfoddhad tebyg i gafodd ei weld wedi adroddiad yr OECD yn gynharach eleni.

"Mae llawer o bryder bod beirniadaeth yr OECD ynglŷn â chynllun profion safonol; bandio ysgolion a gweithredu polisi yn mynd heb eu hystyried."

Ychwanegodd fod angen i'r argymhellion yma "gael blaenoriaeth a chael eu gweithredu mewn partneriaeth gyda'r proffesiwn" a'i fod yn gobeithio y byddai gwersi yn cael eu dysgu.