Enillwyr Tlws John a Ceridwen Hughes 2014

  • Cyhoeddwyd
Cor Aelwyd Chwilog
Disgrifiad o’r llun,

Mae Pat Jones a Carys Jones wedi bod yn gweithio gydag Aelwyd Chwilog ers dros 30 o flynyddoedd

Pat Jones a Carys Jones, arweinwyr Aelwyd Chwilog ger Pwllheli yw enillwyr Tlws John a Ceridwen Hughes 2014.

Mae'r tlws yn cael ei rhoi yn flynyddol yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd i unigolion sydd wedi gwneud cyfraniad sylweddol i fywyd ieuenctid Cymru.

Cafodd y ddwy eu henwebu gan Alun Jones a Catrin Alwen ar ran aelodau'r Urdd a rhieni'r ardal am eu gwaith yn cynnal Aelwyd Chwilog yn wythnosol ers dros 30 o flynyddoedd.

Mae bron i 60 o blant a phobl ifanc yn aelodau o'r Aelwyd sy'n cyfarfod yn wythnosol yn Neuadd Bentref Chwilog yn Eifionydd.

Cawsant wybod eu bod wedi ennill y wobr yn Eisteddfod Cylch Llŷn ac Eifionydd ddechrau Mawrth pan gyhoeddodd y gyflwynwraig Heledd Cynwal y newyddion o'r llwyfan.

'Andros o anrhydedd'

Dywedodd Pat: "Mi gawsom ni dipyn o sioc clywed y cyhoeddiad o lwyfan yr Eisteddfod a deall ein bod wedi ennill Tlws John a Ceridwen Hughes!

"Dydi rhywun ddim yn meddwl bod nhw'n haeddu'r fath beth. Rydyn ni'n dwy mor ddiolchgar i'r plant, y bobl ifanc a'i rhieni am fod mor driw dros y blynyddoedd.

"Mi oedd hi'n dipyn o syndod gweld ar y darn papur ein bod wedi bod wrthi yn Aelwyd Chwilog ers 30 o flynyddoedd. Mae'r amser wedi hedfan - mae'n fwynhad mawr i ni ac mae'r bobl ifanc yn cadw rhywun ar fynd."

Ychwanegodd Carys: "Mae'n andros o anrhydedd i ni, ac yn fwy o anrhydedd fyth gan ei bod yn dod gan yr Urdd a'r bobl ifanc. Mae gen i gariad mawr at y mudiad a'i hegwyddorion.

"Mae'r Aelwyd yn Chwilog yn un teulu bach hapus ers y dechrau cyntaf un, ac mae hi'n bleser cydweithio efo Pat. Rhaid cyfaddef, bod gweld wynebau'r plant a'r bobl ifanc pan gyhoeddwyd ein bod i dderbyn y Tlws yn dod â dagrau i'r llygaid. Rydyn ni'n derbyn yr anrhydedd yn wylaidd iawn."

'Gallu arbennig i drin pobl ifanc'

Un o'r rhai enwebodd y ddwy oedd Alun Jones o Lanarmon, Pwllheli. Dywedodd mai "ymroddiad a dyfalbarhad" sydd wrth galon llwyddiant yr aelwyd.

"Un o nodweddion yr Aelwyd yw bod plant aelodau'r wythdegau bellach yn aelodau o'r Aelwyd heddiw. Mae gan y ddwy allu arbennig i drin pobl ifanc ac mae cynnal diwylliant mewn ardal wledig a rhoi blaenoriaeth i gynnig profiadau diddorol iddynt yn flaenllaw i'r ddwy," meddai.

"Mae eu harbenigedd yn y maes cerddorol yn ganu gwerin, clasurol a cherdd dant yn wybyddus i bawb drwy Gymru.

"Ac yn ystod 2013, mae'r Aelwyd wedi cael profiadau bythgofiadwy, gan ganu dros y ffin yn Lloegr yng Ngŵyl Genedlaethol Ieuenctid Gwledydd Prydain yn Rochdale, Birmingham a'r pinacl cael canu yn y Gymraeg yn yr Albert Hall yn Llundain.

"Mae natur garedig y ddwy a'u hamynedd wrth lywio gweithgareddau yn golygu bod ymdeimlad o berthyn i un teulu mawr yn Aelwyd Chwilog.

"Maen nhw'n llawn haeddu'r clod a chydnabyddiaeth o dderbyn y Tlws coffa yma eleni."

'Cyfraniad amhrisiadwy'

Yn ôl Efa Gruffudd Jones, Prif Weithredwr Urdd Gobaith Cymru: "Mae'r cyfraniad mae unigolion fel Pat a Carys Jones yn ei wneud i bobl ifanc yn amhrisiadwy, ac rydym yn hynod o ddiolchgar am eu gwaith diflino yn ardal Chwilog yn Eifionydd.

"Maent yn cynnig cyfleoedd heb eu hail yn wythnosol i'r bobl ifanc, ac mae'r ffaith bod plant i blant yr aelodau gwreiddiol yn mynychu yn brawf o'r llwyddiant. Llongyfarchiadau mawr i'r ddwy ohonynt!"

Bydd y fedal yn cael ei chreu mewn seremoni ar lwyfan Eisteddfod yr Urdd Meirionnydd 2014 nos Iau, 29 Mai 2014.