Gwerthu canolfan gyfrinachol o'r Ail Ryfel Byd

  • Cyhoeddwyd
Gorsaf radio CriggionFfynhonnell y llun, Jonathan Davies
Disgrifiad o’r llun,

Fe gafodd Criggion ei adeiladu yn ystod yr Ail Ryfel Byd a'i defnyddio fel rhan o system gyfathrebu'r Llynges

Mae grŵp sydd eisiau troi hen ganolfan gyfathrebu gafodd ei defnyddio yn ystod yr Ail Ryfel Byd a'r Rhyfel Oer i amgueddfa, yn gobeithio y caiff hi ei defnyddio fel adnodd i'r gymuned.

Fe gaeodd gorsaf radio Criggion ger y Trallwng ddeng mlynedd yn ôl ac fe ddaeth prydles BT ar y safle i ben ddydd Mercher.

Mae perchennog yr orsaf, Telereal Trillium, wedi penderfynu gwerthu'r eiddo mewn pedair rhan a hynny i geisiadau dan sêl.

Mae un cynghorydd lleol wedi galw am droi'r adeiladau yn ganolfan ymwelwyr, i roi "hwb" i'r ardal.

Gorsaf signalu

Fe gafodd y ganolfan ei hadeiladu yn 1942 i helpu'r Llynges gadw mewn cysylltiad gyda llongau o amgylch y byd.

Wedi'r Ail Ryfel Byd, fe gafodd ei defnyddio fel gorsaf signalu i longau tanfor niwclear yn ystod y Rhyfel Oer, ac fel safle i wneud galwadau ffôn dramor cyn cau yn 2013.

Mae pedwar o ymgeiswyr wedi eu rhoi ar restr fer gan gwmni Telereal, a dywed y cwmni y dylai'r pedair rhan fod wedi eu gwerthu erbyn diwedd Mehefin 2014.

Fe ddywedodd yr asiantaeth dai Balfour bod y pedwar ymgeisydd wedi rhoi cynnig am un rhan yr un.

Mae'r cynghorydd sir lleol Graham Brown yn rhan o grŵp sydd am weld amgueddfa'n olrhain hanes y ganolfan, dywedodd bod gorsaf Criggion "wedi bod yn segur ers ei chau 11 mlynedd yn ôl".

Ffynhonnell y llun, Jonathan Davies
Disgrifiad o’r llun,

Nid yw'r ganolfan wedi ei ddefnyddio ers 2003

"Fe ddatblygon ni syniad i greu cwmni i ddatblygu'r adeiladau yn rhywle i ddenu ymwelwyr, amgueddfa a chanolfan addysg i warchod y safle hanesyddol a rhoi hwb i economi'r ardal," meddai.

'Pedwar cais'

Meddai Mr Brown: "Mae'r adeiladau mewn cyflwr da gan bod nhw wedi eu codi i wrthsefyll bomiau, ond byddai angen buddsoddiad mawr i greu canolfan i ymwelwyr."

Fe ddywedodd llefarydd ar ran Telereal Trillium: "Yn dilyn cyfnod o farchnata'r safle, fe ofynwyd i'r rhai oedd gan ddiddordeb fynegi hynny erbyn 11 Ebrill 2014.

"Fe gawson ni dros 10 cais yn cynnwys nifer gan aelodau o'r gymuned leol.

"Mae pedwar cais wedi eu rhoi ar y rhestr fer ac fe ddylai'r gwerthu fod ar ben erbyn diwedd Mehefin 2014.

"Mae gan yr ymgeiswyr gynlluniau amrywiol ar gyfer y safle, yn cynnwys un i adeiladu amgueddfa.

"Fe fydd y broses hon yn galluogi i'r ganolfan fod o werth unwaith eto, gan gyfrannu at fywydau'r gymuned leol."