Cais i brif-weithredwr ad-dalu taliadau anghyfreithlon

  • Cyhoeddwyd
Bryn Parry Jones
Disgrifiad o’r llun,

Daeth archwilwyr i'r canlyniad bod taliadau i Bryn Parry Jones yn anghyfreithlon

Bydd Cyngor Sir Penfro yn gofyn i'w Prif Weithredwr dalu miloedd o bunnau yn ôl yn dilyn penderfyniad archwilwyr bod taliadau ychwanegol i'w gyflog yn anghyfreithlon.

Mewn cyfarfod arbennig, penderfynodd cynghorwyr i ofyn i Bryn Parry Williams ac un swyddog arall, sydd heb ei enwi, i dalu'r arian yn ôl.

Mae'n nhw'n gofyn i gyfanswm o £ £45,506 gael ei dalu.

Cafodd taliadau pensiwn eu rhoi yn uniongyrchol i'r ddau er mwyn osgoi trethi.

Daeth ymchwiliad gan Swyddfa Archwilio Cymru i'r canlyniad bod y taliadau yn anghyfreithlon.

Yn gynharach eleni dywedodd SAC bod cynghorau Sir Penfro a Chaerfyrddin wedi ymddwyn yn anghyfreithlon drwy adael i Mr Parry Jones a prif weithredwr Caerfyrddin, Mark James, dynnu'n ôl o'r cynllun pensiwn er mwyn osgoi taliadau treth.

Dywedodd yr archwilydd bod y penderfyniadau i adael i swyddogion gael y taliadau, ac yna'r weithred o wneud y taliadau, yn anghyfreithlon am sawl rheswm.

Mae Mr James wedi camu o'r neilltu tra bod ymchwiliad yr heddlu yn parhau.

Ym mis Mawrth, roedd cyfarfod llawn o gyngor Sir Penfro i fod i bleidleisio ar gynnig i wahardd Mr Parry Jones, ond gwrthododd nifer o gynghorwyr yn dilyn honiadau bod canlyniad y bleidlais wedi ei bennu yn barod.