Oedd Dylan Thomas yn gynganeddwr?
- Cyhoeddwyd
A oedd Dylan Thomas yn defnyddio cynghanedd yn ei waith?
Er mai yn Saesneg roedd Dylan Thomas yn barddoni, can mlynedd ers ei eni mae mwy o bobl yn cydnabod dylanwad y Gymraeg ar ei waith.
Mae mwy nag un enghraifft o gynghanedd berffaith i'w cael mewn cerddi fel Vision and Prayer, Fern Hill a Among Those Killed in the Dawn Raid Was a Man Aged a Hundred.
Felly oedd Thomas yn mynd ati'n fwriadol i gynganeddu, neu oedd yn gwneud hynny ar lefel ei isymwybod? Yw hi'n bosib mai cyd-ddigwyddiad llwyr yw'r holl beth?
Mewn erthygl arbennig, y gyntaf o'i math yn y Gymraeg, mae'r prifardd Mererid Hopwood yn mynd â'r darllenydd drwy'r dystiolaeth sydd ar gael, gan roi cyfle i chi benderfynu eich hun os oedd Thomas yn dilyn y traddodiad barddol Cymraeg.