Pryderon seiciatryddion am Uned Hergest

  • Cyhoeddwyd
Uned Hergest
Disgrifiad o’r llun,

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn dweud bod yr holl ganllawiau wedi eu dilyn yn Uned Hergest, newidiadau wedi eu cyflwyno a bod cefnogaeth ar gael

Mae dau uwch-seiciatrydd mewn uned iechyd meddwl yn y gogledd wedi mynegi pryderon am y modd y mae'r uned yn cael ei rheoli.

Mi ddaeth y problemau yn ward Hergest, yn Ysbyty Gwynedd Bangor, i'r amlwg pan gafodd dau aelod o'r staff nyrsio eu hanfon gartref heb esboniad - gan arwain at aniddigrwydd ymhlith staff.

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr wedi ymateb trwy ddweud bod yr holl ganllawiau wedi eu dilyn, newidiadau wedi eu cyflwyno a bod cefnogaeth ar gael.

Dr Tony Roberts ydi cyn-bennaeth Uned Hergest ac mae o'n dal i fod yn ymgynghorydd yno, ac mewn cyfweliad mi ddywedodd: "Yn y bôn, pan oedd rhai o uwch-reolwyr y wardiau yn cwestiynu rhai o'r newidiadau oedd yn cael eu gwneud - ar y diwrnod yr oedd rhai o'r newidiadau yma am gael eu cyflwyno - yna mi gafodd rheolwyr dau o'r prif wardiau gais i adael."

Mi ychwanegodd: "Ni chafo' nhw unrhyw esboniad ac mi oedda nhw o'u gwaith am ryw chwe wythnos. Yn ystod y cyfnod hynny, ar y cyfan doedd dim arweiniad ar y wardiau. Mi gamodd pobl eraill i'r adwy ond doedda nhw ddim yn gwybod be yr oedda nhw'n ei wneud. Ar y pryd, mi fynegodd ryw 4 ymgynghorydd bryder am ddiogelwch."

Ar ôl i'r ddau aelod o staff gael eu symud o'r ward, mi gwynodd dros 40 o'u cyd-weithwyr i'r Bwrdd Iechyd. Mi ddychwelodd y ddau nyrs, ryw 6 wythnos ar ôl y cais iddyn nhw adael.

Aros am esboniad

Mae uwch-seiciatrydd arall yno yn dweud eu bod nhw'n dal i aros am esboniad i'r hyn ddigwyddodd.

Yn ôl yr Athro David Healy: "Hyd heddiw, does neb yn gwybod yn union pa sail oedd gan y rheolwyr i ymddwyn fel y gwnaethon nhw. Yr unig reswm gafodd y ddau nyrs ddychwelyd oedd oherwydd fod bron i bob un aelod o staff yn Hergest - staff meddygol, staff nyrsio ac eraill yn dweud - ylwch dydi hyn ddim yn dderbyniol.

Ychwanegodd, "Does dim tystiolaeth fod pethau wedi newid sy'n gadael y gweddill ohona ni sy'n gweithio yma mewn sefylla fregus ers pan gafodd y ddau nyrs gais i adael. Y teimlad ydi, y gallai ddigwydd i unrhyw un ohona ni."

Mae'r ddau wedi ysgrifennu at y Gweinidog Iechyd, Mark Drakeford, i dynnu sylw at eu pryderon.

Pan oedd y problemau yn yr Uned yn mynd ymlaen, mi oedd yna ymchwiliad gan Goleg Brenhinol y Seiciatryddion ond mi oedd yna benderfyniad i beidio ymchwilio i'r rhesymau y tu ôl i wahardd y ddau nyrs.

Ond, ym mis Rhagfyr y llynedd, mi wnaeth Arolygiaeth Iechyd Cymru dynnu sylw at broblemau yn nhermau rheoli yn Hergest ac, o ganlyniad, mi wnaeth y Bwrdd Iechyd gyflwyno cynllun ymateb.

Bwrdd Iechyd wedi gwrando

Mewn datganiad, mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr wedi dweud wrth BBC Cymru:

"Dydi hi ddim yn wir nad ydi'r Bwrdd Iechyd wedi gwrando ar staff sydd â phryderon. Mi ydan ni wedi gwrando ar staff ac mi fyddwn ni'n parhau i wneud hynny.

"Pan ddaeth nifer o staff ymlaen ym mis Awst, mi wnaetho ni ddechrau ymchwiliad trylwyr yn unol â chanllawiau'r Bwrdd a Llywodraeth Cymru. Mae'r adroddiad wedi ei gwblhau ac mae'r canlyniadau wedi eu rhannu efo'r staff wnaeth fynegi pryder.

"Allwn ni ddim gwneud sylw am unrhyw unigolion allai fod yn rhan o'r broses. Mi allwn ni gadarnhau fod yr adroddiad wedi ei gwblhau a bod y canlyniadau wedi eu rhannu yn briodol."

"Mi ydan ni'n croesawu adroddiad Coleg Brenhinol y Seiciatryddion a'r gwaith gan Arolygiaeth Iechyd Cymru sydd wedi ein helpu i adnabod llefydd lle allwn ni wella ar ddiogelwch a safon gwasanaethau Hergest.

"Mi ydan ni'n gwrando ar staff ac yn cyd-weithio â nhw yn Hergest i weld sut allwn ni gyflwyno y gwelliannau sydd eu hangen yn unol â'r adroddiad."

"Mi ydan ni'n gwneud llawer iawn o waith i wella'r berthynas efo staff ac i sicrhau fod llais pawb yn cael ei glywed. Mae hyfforddiant i staff yn flaenoriaeth ac yn cael ei wella ac mae pawb yn cael ei annog i fynychu cyfarfodydd staff cyson fel eu bod yn rhan o'r broses gynllunio a'r penderfyniadau ar y wardiau.

"Mae staff ar y ward yn cyflwyno cynlluniau i wella profiad cleifion yn Hergest ac mae'r uned yn cael ei hail wampio."

Mae'r Aelod Cynulliad lleol - Alun Ffred Jones - hefyd wedi cyfarfod efo'r Gweiniodg Iechyd i dynnu ei sylw at y sefyllfa.