Y Muni ac Amgueddfa Cwm Cynon i gau er mwyn arbed arian

  • Cyhoeddwyd
Y Muni
Disgrifiad o’r llun,

Mae canolfan gelfyddydau'r Muni yn adeilad enwog ym Mhontypridd

Bydd Canolfan Gelfyddydau'r Muni ym Mhontypridd ac Amgueddfa Cwm Cynon yn Aberdâr yn cau fel rhan o gynllun i arbed arian.

Pleidleisiodd cynghorwyr cabinet Rhondda Cynon Taf i gau'r canolfannau ddydd Mercher.

Daeth y toriadau fel ail ran cynllun ariannol y cyngor, sy'n trio arbed £70 miliwn dros bedair blynedd.

Yn gynharach, pleidleisiodd y cabinet dros ohirio'r penderfyniad dros gau Canolfan Hamdden Llanilltud Faerdre, Pwll Nofio Bronwydd ym Mhorth a throsglwyddo'r cyfrifoldeb dros Bwll Nofio Hawthorn ger Pontypridd i ofal ysgol uwchradd lleol.

Bydd adolygiad pellach yn cael ei gynnal cyn i benderfyniad terfynol gael ei wneud ar y rheiny ymhen y misoedd nesaf.

Toriadau

Yn ogystal â'r toriadau yma, penderfynodd y cabinet o blaid arbed £1.1m mewn gofal cymdeithasol i oedolion drwy gynyddu cost y gwasanaethau.

Cafodd newidiadau bach i wasanaethau bws, pyllau nofio a goleuadau stryd.

Ddechrau'r flwyddyn, penderfynodd y cyngor i godi'r oedran y mae plant yn dechrau addysg llawn amser o dair i bedair oed.

Mi benderfynon nhw hefyd i gau nifer o lyfrgelloedd a chanolfannau dydd i'r henoed yn y sir.

Cafodd gwasanaethau ieuenctid eu cwtogi a phenderfynodd cynghorwyr i roi'r gorau i'r gwasanaeth pryd ar glud ar benwythnosau hefyd.