Holi Dyfan Dwyfor am ddrama waedlyd Titus Andronicus

  • Cyhoeddwyd
Titus AndronicusFfynhonnell y llun, Simon Kane
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Dyfan Dwyfor (ar y dde) fod perfformio yn theatr y Glôb yn 'brofiad anhygoel'

Sgrechian, llewygu ac anafiadau - mae digon o ddrama yn y gynulleidfa, heb sôn am yr hyn sy'n digwydd ar y llwyfan. Mae angen stumog gref i wylio cynhyrchiad diweddara' theatr y Glôb yn Llundain, Titus Andronicus. Cymru Fyw fu'n siarad ag un o'r ddau Gymro Cymraeg ar y cast i holi pam.

Mae'r actor Dyfan Dwyfor, yn wreiddiol o Gricieth, yn chwarae rhan Lucius, mab hyna' Titus. Fo yw un o'r unig gymeriadau sy'n dal yn fyw ar ddiwedd y ddrama waedlyd hon, gyda llofruddiaeth, anafiadau erchyll, trais, gwallgofrwydd a chanibaliaeth i gyd yn themâu amlwg.

Sut brofiad ydy gweithio ar ddrama fel hon?

Do'n i erioed wedi perfformio yn y Glôb o'r blaen ac mae hynny'n brofiad anhygoel yn ei hun. 'Da chi'n gweld pawb drwy'r adeg, sy'n ddiddorol. Does 'na ddim golau llwyfan chwaith, felly mae'n creu rhyw awyrgylch arbennig. Mae hefyd yn grêt cael mwynhau golygfeydd ymladd - mae 'na hen ddigon o waed! 'Dwi erioed wedi actio mewn drama sydd hefo cymaint o waed i ddweud y gwir! Mae 'na Gymro arall yn y cast hefyd - Steffan Donnelly, o Lanfairpwll, felly mae hynny wedi bod yn braf. Ma' pawb arall ar y cynhyrchiad yn sbio'n syn pan 'da ni'n siarad Cymraeg efo'n gilydd!

Ydy'r ymateb i'r ddrama wedi'ch synnu chi?

Mae'n wir bod sbelan o'r gynulleidfa yn llewygu wrth wylio'r perfformiad - weles i hogan yn hitio'i phen ar y llwyfan noson o'r blaen - a boi arall y noson gynt yn torri'i drwyn. Mae'n od, falla, bod yr ymateb mor gry' gan fod pobl yn gwybod mai theatr ydy o, ond mae fel petai'r gynulleidfa'n cael ei sugno mewn. 'Da ni'n llosgi incense drwy gydol y sioe, felly mae'r arogl a'r ffaith bod 'na ddim lot o olau yn creu awyrgylch reit dda, sydd wedi'i sefydlu cyn i'r ddrama ddechrau reit tan y diwedd. Wrth gwrs, ma' pobl wedi darllen lot am y cynhyrchiad erbyn hyn hefyd, felly mae o bron fel bod pobl yn disgwyl gwaeth.

Oeddech chi'n gwybod y byddai'n gynhyrchiad mor waedlyd pan gawsoch chi gynnig y rhan?

Roedd 'na gynhyrchiad tebyg o'r ddrama yn 2006, a ro'n i'n gwybod bod hwnnw'n waedlyd iawn. Ond ma' pawb yn y cast yn newydd y tro yma, heblaw'r cyfarwyddwr [Lucy Bailey]. Felly mae'r cynhyrchiad yma'n ffresh. Mae rhai pethau'r un fath, wrth gwrs, ond mae 'na lot fawr o bethau newydd. Doedd y cyfarwyddwr ddim yn cofio rhai pethau o'r tro diwetha', fel y technegau gwaed, er enghraifft, felly roedd yn rhaid ailedrych ar hynny'r tro 'ma.

Ia, mae'n debyg bod angen rhyw bum litr o waed ffug ar gyfer pob perfformiad - sut mae cael y cyfan i edrych yn realistig?

'Da ni'n defnyddio gwaed reit dywyll, sy'n edrych yn fwy fel gwaed go iawn falla. Mae 'na dipyn o dechnegau gwahanol hefyd - mae dwy o'r merched, er enghraifft, yn gwaedu lot ar un adeg yn y ddrama. Mae 'na straws wedi'u gosod trwy lawr y llwyfan, ac mae'r stage managers yn gorfod mynd o dan y llwyfan i bwmpio'r gwaed i fyny drwyddyn nhw fel bod y merched yn gallu ei sugno a'i boeri allan. Mae Lucius wedyn yn gofyn i'w chwaer, Lavinia, pwy sy' wedi ymosod arni ac wrth iddi drio siarad mae'r gwaed yn llifo allan achos ma' nhw wedi torri ei thafod i ffwrdd. Mae 'na dipyn o ddefnydd o pipettes hefyd - 'da ni'n cario'r rheiny yn ein dwylo ac os oes 'na rai'n colli'u dwylo ac yn y blaen, ma' nhw'n gallu gwasgu'r gwaed allan pan fydd angen.

Ffynhonnell y llun, Simon Kane
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r cynhyrchiad yn theatr y Glôb, Llundain, tan 13 Gorffennaf

Ai oherwydd ei bod hi'n gwthio ffiniau mae'r ddrama yn apelio cymaint tybed?

Dwi'n meddwl bod 'na elfen o her yn y peth - ma' rhai'n dweud eu bod nhw'n squeamish, er enghraifft, a ma' nhw'n dod i weld y ddrama ac eistedd yn y blaen! Ma' pobl yn mynd i'r pictiwrs i weld petha' fel hyn fel arfer, dydy o ddim yn rhywbeth fyddech chi'n disgwyl gweld ar lwyfan - falla ei fod yn fwy realistig yn y theatr, gan ei fod yn digwydd reit o flaen eich llygaid, a'r gynulleidfa'n gallu ei gyffwrdd bron. Hefyd, mae 'na elfen o'r peth gladiator amdano - cymaint o gwffio a gwaed. Am ryw reswm, ma' pobl yn licio horror 'dydyn. Dwi wedi gweld pobl yn bob man ar Twitter yn dweud eu bod nhw 'di prynu tocynnau a bod nhw ddim yn siŵr ydyn nhw am fynd - ma' nhw bron fel bod nhw'n gweithio'u hunain fyny'n fwriadol. D'eud bod nhw ddim eisiau, pan ma' nhw eisiau mewn gwirionedd.

Ydy hi'n anodd canolbwyntio os oes pobl yn llewygu o'ch cwmpas chi?!

Wel does unlle i guddio yn y Glôb - munud 'da chi yn y gofod perfformio, 'da chi'n cael eich gweld felly mae'n rhaid cadw i fynd. Ma' hynny'n anodd weithiau ac mae'r ffaith bod 'na lot yn digwydd o fewn y gynulleidfa'n gallu tynnu sylw rhywun - ond mae'n rhaid cofio pam bod ni yno. Ar ddiwedd yr act gynta', er enghraifft, ma' gen i araith ar fy mhen fy hun a ma' Titus newydd gario dau ben gwaedlyd allan mewn bagiau. Dwi'n ymwybodol iawn yr adeg honno fod hanner y gynulleidfa ddim yn sbio arna' i, bod nhw'n edrych ar Titus, ond mae'n rhaid cadw i fynd.

Mae'r cynhyrchiad yn cael tipyn o sylw ar wefannau cymdeithasol - be' wnewch chi o hynny?

Oes, mae 'na lot o sôn wedi bod ar Facebook a Twitter, ac yn y papurau. Ma' pobl wedi darllen lot am y ddrama cyn dod i'w gweld dwi'n meddwl - ac mae bron fel tasech chi'n teimlo'r buzz yn y gynulleidfa cyn i'r ddrama ddechrau. Dwi'n meddwl bod o'n codi chwilfrydedd pobl i ddod i weld y cynhyrchiad, sy'n beth gwych i ni!