Gemau Gymanwlad: 4 tîm yn llwyddo
- Cyhoeddwyd
Bydd tîm pêl-rwyd y merched, rygbi saith bob ochr y dynion yn ogystal â'r ddau dîm hoci yn cystadlu yn Gemau'r Gymanwlad flwyddyn nesaf.
Fe gyhoeddodd Cyngor Cymru ar gyfer Gemau'r Gymanwlad bod y pedwar tîm wedi llwyddo i gymhwyso ar gyfer y gystadleuaeth yng Nglasgow.
Er bod y timau hoci merched a'r rygbi saith bob ochr wedi cynrychioli Cymru yn y gemau yn Delhi yn 2010 nid dyma oedd y sefyllfa ar gyfer y gamp pêl rhwyd a hoci i'r dynion.
Carfan fawr
Dywedodd prif weithredwr y corff, Chris Jenkins bod hyn yn newyddion gwych: "Rydyn ni wrth ein boddau y bydd yna dîm yn ein cynrychioli ni ym mhob un o'r pedwar camp.
"Dyma'r tro cyntaf i ni lwyddo i wneud hyn ar gyfer rhai o'r Gemau diwethaf ac mae hyn yn dangos safon chwaraeon yng Nghymru ar hyn o bryd.
"Bydd maint y garfan nawr llawer yn fwy gyda phedwar tîm yn cynyddu'r niferoedd ac mi fyddwn i yn bendant yn anfon un o'r timau mwyaf erioed i'r Gemau Gymanwlad."
Cynnydd
Fe fethodd y merched pêl-rwyd a chyrraedd y nod ar gyfer y gemau yn 2010. Ond erbyn diwedd y tymor eleni roeddent yn 7fed yn y byd. Mae prif hyfforddwr y tîm yn dweud bod hyn yn gyfle iddyn nhw ddangos y cynnydd maen nhw wedi gwneud:
"Mae'n beth enfawr ar gyfer pêl-rwyd yng Nghymru ac mae medru dangos i bawb yr hyn rydyn ni wedi cyflawni yn y tair blynedd ddiwethaf a pha mor wych mae'r merched wedi gwneud, mae hynny yn ysbrydoledig," meddai Melissa Hyndman.
Yn 2010 mi gyrhaeddodd y tîm rygbi'r rownd gyn derfynol ac ym mhencampwriaeth saith bob ochr y byd mi oedden nhw yn yr wyth olaf. Mae'r chwaraewyr yn edrych ymlaen at yr her meddai'r hyfforddwr Paul John.
Y merched a'r dynion
Mae mis Gorffennaf wedi bod yn un da i dîm merched hoci Cymru wrth iddyn nhw gipio medelau aur ym Mhencampwriaeth hoci awyr agored Ewrop. Eleni hefyd bydd y dynion yn cystadlu yn y gemau:
"Dyma'r tro cyntaf ers Kuala Lumpur yn 1998 i'r ddwy garfan gymhwyso ac mae hyn yn adlewyrchu'r cynnydd go iawn tuag at ein nod o fod yn y deg uchaf yn Ewrop a darparu chwaraewyr i garfan Prydain," meddai prif withredwr Hoci Cymru, Helen Bushell.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd3 Awst 2013
- Cyhoeddwyd12 Mehefin 2013
- Cyhoeddwyd15 Chwefror 2013