Newid i reolau carchardai agored
- Cyhoeddwyd
Fe fydd rheolau ar garcharorion mewn carchardai agored yn cael eu tynhau wedi i'r heddlu ganfod masnach gyffuriau gwerth £1m oedd yn cael ei redeg o'r tu mewn i garchar.
Cafodd saith o ddynion, oedd yn rhan o gynllwyn i werthu mephedrone, eu carcharu am gyfanswm o dros 30 mlynedd yn dilyn achos yn Llys y Goron Abertawe.
Mae deunydd gafodd ei recordio ar gamera cudd gan yr heddlu wedi ei roi i raglen Week In Week Out, ac yn dangos arweinydd y gang Matthew Roberts, 42 oed, yn derbyn pecyn o gyffuriau tra'n gyrru un o faniau'r carchar.
Dywedodd y Gweinidog Carchardai Jeremy Wright na ddylid cyfaddawdu ar ddiogelwch y cyhoedd.
'Gwerth degau o filoedd'
Cafodd y fideos cudd eu recordio gan weithlu cyffuriau a throseddau Tarian sy'n gweithio yng nghanolbarth a de Cymru.
Maen un yn dangos Roberts, oedd yng ngharchar agored Prescoed yn Sir Fynwy, yn gyrru'r fan oddi ar y safle gan roi'r cyfle iddo drefnu gweithgareddau'r gang.
Mae un arall yn ei ddangos yn prynu ffôn symudol - sydd yn erbyn rheolau'r carchar - ac yn cwrdd â Colin Beck sy'n cael ei weld yn rhoi pecyn o gyffuriau iddo.
Cafodd Roberts hefyd ei recordio yn siarad gydag aelod arall o'r gang - oedd mewn carchar diogel ond hefyd ar ffôn symudol - am brynu cyffuriau werth degau o filoedd o bunnoedd.
'Rhy hwyr'
Mae'r Weinyddiaeth Gyfiawnder wedi addo newid rheolau carchardai agored "ar frys" yn sgil yr achos.
Dywedodd Glyn Travis o Gymdeithas y Swyddogion Carchardai: "Mae'r asesiad risg sy'n digwydd pan mae carcharor mewn safle agored yn rhy hwyr, oherwydd mae'r methiannau eisoes yn digwydd."
Mewn datganiad dywedodd y Gweinidog Carchardai Jeremy Wright: "Nid wyf yn barod i weld cyfaddawdu ar ddiogelwch y cyhoedd.
"Mae'r system o ganiatáu carcharorion allan ar drwydded dros dro wedi bod yn rhy llac hyd yma, ac rydym yn gwneud newidiadau mawr i newid hyn."
Bydd 'Week In Week Out: Undercover - The Insider Dealing Gang' yn cael ei darlledu ar BBC One Wales am 22:35 ar nos Fawrth, 20 Mai.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd7 Mai 2014