Carcharu saith am droseddau cyffuriau
- Cyhoeddwyd
Bydd saith dyn yn treulio cyfanswm o 30 mlynedd dan glo am eu rhan mewn dau blot i ddod â chyffuriau i dde Cymru.
Roedd dau ohonyn nhw'n garcharorion ddefnyddiodd ffonau symudol i drefnu'r cynlluniau.
Fe gyfaddefodd un carcharor a phedwar dyn arall achos o gynllwynio i ddarparu cocên, ac fe blediodd y carcharor arall ac un dyn yn euog i gynllwynio i ddarparu mephedrone.
Fe ddywedodd y barnwr yn Llys y Goron Abertawe nad oedd o'n gallu credu nad oedd unrhyw system i ddod o hyd i ffonau symudol oedd yn cael eu defnyddio yn y carchar.
"Mae'n eitha' syfrdanol, mewn carchar modern, nad oes 'na offer sganio i ganfod oes 'na ffôn symudol yn cael ei ddefnyddio," meddai'r Barnwr Peter Heywood.
1.25kg o gocên
Fe glywodd y llys bod Mathew Roberts, 42, o ardal Maesteg, wedi gwneud galwadau ffôn o garchar Leyhill yn Swydd Gaerloyw a Phrescoed yn Sir Fynwy, er mwyn trefnu cludo cyffuriau i Mathew Pugh, 27, ym Mhort Talbot.
Rhwng Hydref 2012 ac Ebrill 2013, fe gafodd tua 1.25kg o gocên ei gludo o Fryste i Pugh gan Damien Ramsey, 42, Nicholas Avery, 54, a Jamie Hunt, 33.
Roedd y pump eisoes wedi cyfaddef cynllwynio i ddarparu cocên mewn gwrandawiad blaenorol.
Yn ogystal, fe gyfaddefodd Pugh fod ganddo 3kg o amffetamin a rhywfaint o ganabis yn ei feddiant.
Fe ddywedodd y barnwr wrth Mathew Roberts: "Mae'n glir mai chi oedd yn rheoli. Chi oedd yr arweinydd - yn trefnu'r cynllwyn o'ch cell neu'ch man gwaith."
Mewn cyswllt cyson
Yn ystod yr un cyfnod, roedd Richard Saltmarsh, 35, mewn cyswllt cyson gyda Roberts o garchar Rye Hill yn Swydd Warwick.
Fe ofynnodd Saltmarsh i Andrew Clay, 39, drefnu cyfarfod rhwng Roberts a dyn arall o'r enw Colin Beck yng Nghwmbrân, er mwyn iddo gael cyflenwad o fephedrone, pan gafodd o'i ryddhau am y dydd o garchar Prescoed.
Meddai'r barnwr: "Pan aethoch chi i gwrdd â Beck i gael y mephedrone, roeddech chi'n defnyddio fan y carchar i yrru i orsaf Cwmbrân. Mae hynny'n dangos eich hyfdra a'ch difaterwch am eich dedfryd.
Fe blediodd Saltmarsh a Clay yn euog i achos o ddarparu cyffur dosbarth B - mephedrone.
Fe gafodd y saith eu dedfrydu fel a ganlyn:
Mathew Roberts, dim cyfeiriad penodol: 8 mlynedd (i gydolynu'r 15 mlynedd o ddedfryd sydd ganddo eisoes)
Richard Saltmarsh, dim cyfeiriad penodol: 2 mlynedd 4 mis (i gydolynu'r 26 mlynedd o ddedfryd sydd ganddo eisoes)
Damien Ramsey, o Fryste: 6 mlynedd 8 mis
Andrew Clay, o Solihull: 8 mis (i gydolynu'r 4 mlynedd 4 mis o ddedfryd sydd ganddo eisoes)
Mathew Pugh, o Bort Talbot: 5 mlynedd 4 mis
Jamie Hunt, o Fryste: 5 mlynedd 4 mis
Nicholas Avery, dim cyfeiriad penodol: 2 flynedd
Fe alwodd Nicola Rees o Wasanaeth Erlyn y Goron y cynllwyn yn un soffistigedig.
"Mae cyffuriau'n bla ar ein cymunedau lleol ni, yn niweidio bywydau ac yn annod mathau eraill o droseddau," meddai.