Her i chwarae 1,767 o bibellau organ Eglwys mewn awr
- Cyhoeddwyd
Mae cyfansoddwr o Ogledd Cymru yn gobeithio chwarae bron i 2,000 o bibellau organ a hynny yn ystod un digwyddiad. Gobaith John Hosking yw ffeindio darnau o gerddoriaeth neith alluogi fo i wneud hyn.
Mae o wedi bod yn chwarae'r organ eglwys yn Llandudno ers iddo fod yn blentyn. Cafodd yr offeryn ei adeiladu yn 1910 ac mae'n rhestredig fel gradd II.
Yn Eglwys St Paul, Craig-y-Don mae'r organ a'r son ydy ei bod hi'n medru chwarae nodau mor uchel fel nad ydy rhai yn medru eu clywed. Mae'r nodau mwyaf isel yn medru ysgwyd adeiladau.
Dywedodd Mr Hosking sydd hefyd yn Gyfarwyddwr Cynorthwyol Cerddoriaeth yn Eglwys Gadeiriol Llanelwy: "Y rheswm fod gan yr organ yn Eglwys St Paul gymaint o bibellau yw am fod ganddi lawer o osodiadau sŵn.
"Mae rhai wedi eu dylunio i swnio fel offerynnau pres, eraill fel ffliwt neu obo. Y sialens fawr yw ffeindio cerddoriaeth fydd yn golygu y byddai yn medru defnyddio amrywiaeth o nodau a synnau mewn un noson.
"Dydy hynny ddim mor hawdd ac mae'n ymddangos. Mi fydd yn golygu chwarae detholiad o gerddoriaeth, o Bach i Mendelssohn a darn o'r enw The Thalben-Ball Elegy. Mae'r sŵn yn cynyddu i fod yn uchel iawn, cyn pylu i fod yn ddim byd eto."
Adfer yr organ
Daeth y syniad ar ol i un aelod o'r cor ofyn a oedd yr holl bibellau yn medru cael eu defnyddio neu os mai addurn oedd rhai ohonyn nhw.
Meddai Deborah Haigh-Roberts, Cyfarwyddwr Cerddoriaeth yn Eglwys St Paul:
"Pan wnaethon ni ddechrau siarad gyda John Hosking mi oedd e yn meddwl y byddai hi yn sialens ddiddorol i weld os y byddai modd defnyddio nhw i gyd mewn cyfnod o awr."
Ddydd Sul mi fydd Mr Hosking yn rhoi tro arni i chwarae'r 1,767 o bibellau. Y gobaith ydy codi arian am fod yna waith adfer i'w wneud ar yr organ. Mi allai hyn gostio cymaint â £150,000.
Dywed Deborah Haigh-Roberts: "Da ni wedi bod yn tynnu coes John os na fydd rhai o'r pibellau yn medru cael eu clywed, da ni eisiau gofyn am dystiolaeth wyddonol bod y pibellau wedi cael eu chwarae!"