Mwy o ferched yn ASau yn 2015?
- Cyhoeddwyd
Mae grŵp ymgyrchu yn darogan y gallai nifer y merched sy'n cael eu hethol yn Aelodau Seneddol Cymreig godi o saith i 14 y flwyddyn nesaf.
Dyna mae'r Gymdeithas Diwygio Etholiadol yn ei ddweud.
Maen nhw wedi darogan hyn ar ôl gweld polau piniwn a nifer yr ymgeiswyr gwrywaidd a benywaidd sydd wedi eu dewis gan y pleidiau gwleidyddol.
Y sefyllfa waethaf fyddai bod y nifer dal yn saith ac yn ôl y mudiad, mi allai hi gymryd 15 mlynedd nes y bydd yr un nifer o ferched a dynion yn cynrychioli Cymru yn y Senedd.
Yn San Steffan mae 40 o seddi Cymreig.
Angen deddfu?
Dywedodd cyfarwyddwr y mudiad yng Nghymru, Stephen Brooks: "Mae gan Gymru record wael o ran anfon merched o Gymru i San Steffan. Tan 1997 dim ond un AS oedd gyda ni ar un adeg."
Mae AC sy'n aelod o bwyllgor cydraddoldeb a chymunedau wedi dweud wrth raglen BBC Cymru Sunday Politics ei bod hi'n bryd ystyried deddfwriaeth er mwyn cael mwy o ymgeiswyr benywaidd.
Ar hyn o bryd yn y Cynulliad mae 25 o aelodau'n ferched tra bod 35 yn ddynion.
Dywedodd yr AC Plaid Cymru, Jocelyn Davies: "Dw i yn bendant yn dechrau meddwl efallai y dylen ni ystyried deddfu ar hyn.
"Os oes system gynrychiolaeth gyfrannol mi allech chi wneud hyn a dw i yn gwybod bod 'na wledydd eraill wedi gwneud hyn.
"Yn Sbaen er enghraifft mae'r rhestr pleidiau yn dweud na all un rhyw gael mwy na 60%."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd20 Ebrill 2014