Anrhydeddu Syr Tom Jones

  • Cyhoeddwyd
Sir Tom Jones
Disgrifiad o’r llun,

Dywed Syr Tom Jones y bydd derbyn y tlws yn "anrhydedd mawr"

Mae'r canwr Syr Tom Jones i dderbyn tlws arbennig am ei gyfraniad i gerddoriaeth yng ngwobrau Silver Clef eleni.

Fe fydd y canwr 73 oed yn derbyn yr anrhydedd mewn seremoni yn Llundain ar 4 Gorffennaf.

Mae wedi bod yn perfformio am bron i hanner can mlynedd.

Dywed y trefnwyr fod Syr Tom yn gerddor o bwys oedd wedi dod â phleser i nifer o bobl.

Mae gwobrau y Silver Clef yn codi arian ar gyfer yr elusen Nordoff Robbins sy'n darparu therapi cerddorol i oedolion a phlant.

"Fe fydd derbyn y tlws arbennig hwn yn anrhydedd mawr," meddai Syr Tom.

"Rwyf wedi gweld dros fy hunain y gwaith a'r canlyniadau mae therapyddion yn gallu ei gael drwy weithio gyda phlant ac oedolion - maen nhw yn gallu gwneud gwahaniaeth i fywydau.

"Mae hwn yn elusen bwysig, ac mae derbyn cydnabyddiaeth am fy ngwaith i yn golygu lot fawr."

Fe ddaeth Tom Jones i amlygrwydd gyntaf yn y 60au gyda chaneuon fel It's Not Unusual, What's New Pussycat? Green, Green Grass of Home a Delilah.

Mae o wedi gwerthu mwy na 100 miliwn o recordiau.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol