Plant yr Iseldiroedd yn diolch i Gymru am ei hymdrech rhyfel

  • Cyhoeddwyd
PlantFfynhonnell y llun, Henk van Esch
Disgrifiad o’r llun,

Mae plant o s-Hertogenbosch wedi cael gwahoddiad i'r gêm bêl droed rhwng Cymru a'r Iseldiroedd

Mae plant o'r Iseldiroedd yn talu teyrnged i'r dynion o Gymru wnaeth farw yn ystod brwydr i'w rhyddhau o reolaeth yr Almaen.

Mae 70 mlynedd wedi pasio ers i ddinas s-Hertogenbosch fod yn ddinas rydd.

Yn y frwydr yn 1944 cafodd 146 o filwyr o Gymru eu lladd. Eleni mae 146 o blant wedi cael gwahoddiad i wylio gêm bêl droed Cymru yn erbyn yr Iseldiroedd.

Mi fyddan nhw yn cyfarfod rheolwr Cymru, Chris Coleman, rhai o'r chwaraewyr a phrif weithredwr a llywydd Cymdeithas Pêl Droed Cymru.

Ffynhonnell y llun, IMPERIAL WAR MUSEUMS
Disgrifiad o’r llun,

Mi wnaeth y frwydr yn 1944 bara 4 diwrnod

Dywedodd Chris Coleman: "Mae hi yn fraint ac anrhydedd i fod yn rhan o'r cofio... Mae'n anodd dychmygu faint wnaeth y dynion o Gymru a miliynau eraill ei ddioddef yn ystod yr Ail Rhyfel Byd."

Eleni mi fydd y trefniadau swyddogol rhwng Cymru a'r Iseldiroedd i gofio'r diwrnod pan gafodd y ddinas ei rhyddhau yn digwydd am y tro olaf.

Cafodd y penderfyniad ei wneud am nad oes 'na nifer o'r milwyr yn fyw erbyn hyn.

Mi fydd cynrychiolwyr yn teithio i Gaerdydd ar gyfer Diwrnod y Lluoedd Arfog ddiwedd Mehefin y tro yma ac yn gwneud hynny ar gefn beic. Mi fyddan nhw'n cario torch wedi ei goleuo.

Yna yn yr Iseldiroedd ym mis Hydref bydd y frwydr yn cael ei chofio unwaith eto.

Flwyddyn nesa', bydd s-Hertogenbosch yn canolbwyntio ar gofio yr hyn ddigwyddodd i'r dref yn ystod dydd y cofio cenedlaethol ym mis Mawrth.