Amgueddfa Wrecsam yn chwilio am fedal glöwr
- Cyhoeddwyd
Mae Amgueddfa Wrecsam yn apelio am wybodaeth am fedal gafodd ei rhoi i löwr wedi trychineb Gresffordd.
Mae hi'n 80 mlynedd eleni ers y trychineb ac mae'r amgueddfa yn trefnu arddangosfa arbennig i nodi'r pen-blwydd.
Dywedodd Jonathan Gammond, Swyddog Dehongli yng Ngwasanaeth Treftadaeth Wrecsam, y byddai'n wych petai'r fedal yn rhan o'r arddangosfa.
"Cyn belled ag yr wyf yn ymwybodol dyma'r unig Fedal Edward a roddwyd i löwr o faes glo yng ngogledd Cymru ac o ganlyniad mae'n rhan o hanes mwyngloddio'r ardal," meddai.
Ffrwydrad
Roedd y Fedal Edward yn cael ei rhoi i gydnabod gweithredoedd o ddewrder gan lowyr a chwarelwyr oedd wedi peryglu eu bywydau i achub cyd-weithwyr.
Cafodd y fedal ei rhoi i John Edward Samuel, un o'r chwech o ddynion a lwyddodd i ddianc o drychineb Gresffordd.
Digwyddodd trychineb Gresffordd ar yr 22ain o Fedi, 1934, pan fu farw 266 o lowyr mewn ffrwydrad enfawr o dan ddaear.
Mewn adroddiad yn dilyn y trychineb gan Syr Henry Walker, Prif Arolygydd Fwyngloddiau, cafodd dewrder John Edward Samuel ei ganmol. Roedd y ddogfen yn dweud ei fod wedi "arddangos rhinweddau arweinyddiaeth mewn sefyllfa arswydus".
Roedd Mr Samuel wedi symud i Beer yn Nyfnaint lle gweithiodd fel garddwr wedi'r trychineb.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd24 Mai 2012