Euogrwydd, poen a dicter o hyd wrth aros am gasgliadau ymchwiliad Covid

- Cyhoeddwyd
Bydd ymateb Llywodraeth Cymru i achosion o Covid-19 dan y chwyddwydr brynhawn Iau pan fydd ymchwiliad cyhoeddus yn dod i farn ynghylch "penderfyniadau gwleidyddol allweddol" ar draws y DU yn ystod y pandemig.
Rhwng 2020 a 2024 roedd dros 12,000 o farwolaethau yng Nghymru yn gysylltiedig â'r feirws.
Dyma fydd ail adroddiad Ymchwiliad Covid-19 y DU, sy'n archwilio penderfyniadau llywodraethau Cymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon.
Ymhlith y cwestiynau tebygol dan ystyriaeth yw a wnaeth Llywodraeth Cymru werthfawrogi'n ddigonol maint bygythiad y feirws yn y cyfnodau cynnar, a gwneud digon i ddiogelu cleifion hŷn a bregus?
Beth wedyn am y cyfnodau pan roedd cyfyngiadau gwahanol naill ochr i Glawdd Offa? A beth yw barn yr ymchwiliad am natur y berthynas rhwng llywodraethau Cymru a San Setaffan?
Tra'n casglu tystiolaeth ar gyfer y modiwl hwn, cafodd tair wythnos o wrandawiadau eu cynnal yng Nghaerdydd ddechrau 2024, lle clywodd yr ymchwiliad gan wleidyddion, gweision sifil, arbenigwyr iechyd a phobl a gollodd anwyliaid.
Dwi wedi bod holi rhai o'r teuluoedd hynny a gweithwyr iechyd ar drothwy cyhoeddi'r canfyddiadau.
'Mae'r euogrwydd yn mynd i fod yno am byth'
Un a rannodd ei phrofiadau gyda'r ymchwiliad Covid-19 yw Gwenno Hodson o Fôn, a gollodd ei chwaer ieuengaf Carys oherwydd canser yn ystod y pandemig.
Mae Gwenno'n dal i deimlo euogrwydd wedi i gyfyngiadau Covid ei hatal rhag cefnogi ei chwaer yn ystod ei salwch.

Mae'n dal yn destun gofid i Gwenno Hodson na fu'n bosib iddi ymweld â'i chwaer cyn iddi farw o ganser oherwydd cyfyngiadau teithio'r pandemig
"Doeddwn i ddim yn gallu mynd lawr ati," meddai. "Roedd 'na gyfyngiadau teithio mewn lle ac roedd rhaid aros yn lleol.
"Roedd Mam a fi am fynd lawr i helpu a bod yn gefn i Carys a'r teulu ond doedden ni ddim yn gallu. Roedd o'n gyfnod ofnadwy.
"Roedd o'n arbennig o anodd ceisio [cefnogi Carys] dros y we neu drwy alwadau ffôn a negeseuon ac ati.
"Mae angen i'r ymchwiliad ystyried y bobl fu farw nid oherwydd Covid... y bobl hynny [fel Carys] oedd yn gorfod mynd i apwyntiadau meddygol ar eu pennau eu hunain a wynebu pethau erchyll. Hefyd yr angladdau lle doedd neb yn cael mynd iddyn nhw."

Roedd Carys yn byw yn Sir Fynwy, a doedd dim modd i'w theulu deithio yno i'w chefnogi
Gobaith Gwenno yw y bydd yr ymchwiliad yn cynnig argymhellion a chanllawiau er mwyn paratoi'n well ar gyfer unrhyw bandemig yn y dyfodol.
"Ddylai llai o wleidyddion fod yn gwneud y penderfyniadau a dylai'r rhai sydd yn rhoi cyngor iddyn nhw fod yn deall y maes - gan roi canllawiau cywir yn hytrach na mesurau chwit chwat.
"Dylen nhw sefydlu pwyllgorau lle mae pobl gyffredin cig a gwaed yn medru cyfrannu."
Er yn gobeithio y bydd yr adroddiad yn cynnig rhywfaint o gysur, mae Gwenno'n cydnabod na fydd ei phoen fyth yn diflannu.
"Mae'r euogrwydd yn mynd i aros, a'r teimlad nad oeddwn i, fel chwaer, wedi gwneud fy ngorau ar gyfer Carys.
"Mae hynny yn mynd i fod efo ni am byth a dwi ddim yn meddwl bod unrhyw eiriau ar bapur yn mynd i newid hynny."
'Mae'r boen a'r dicter dal yna'
Pan darodd y pandemig yn 2020 roedd Rhys Morgan, o Dre-gŵyr ger Abertawe, yn fyfyriwr TGAU 16 oed.
Fel miloedd o bobl ifanc, un o'r heriau cyntaf iddo oedd ymdopi ag effaith cau ysgolion, ac yno'n gefn iddo oedd ei fodryb Lynne - rhywun y byddai'n troi ati'n aml am gyngor a chefnogaeth.
"Roedd fy modryb fel ail fam i fi ac roeddwn i'n agos iawn iddi... o'dd hi'n edrych ar ôl pawb yn y teulu," meddai.
"Os oeddwn i'n stryglo gyda gwaith ysgol, neu'n anhapus, neu ddim yn siŵr sut i wneud gwaith neu beth i wneud nesaf, bydde hi wastad yno i mi."

Bu farw modryb Rhys Morgan, Lynne, ar noswyl Nadolig 2020
Ond trodd bywyd Rhys wyneb i waered wedi i'w fodryb ddal Covid yn Rhagfyr 2020 a gorfod mynd i'r ysbyty.
"O'dd Dad wedi rhoi Lynne ar y ffôn... doeddwn i ddim wir yn gallu ei chlywed hi oherwydd bo hi ar y machine [anadlu].
"Ond 'wy'n gwybod oedd hi'n ceisio dweud wrtha'i y byddai popeth yn ok a'i bod yn fy ngharu i. Ond doeddwn i ddim yn gallu dweud hwyl fawr yn iawn.
"Noson cyn Nadolig ges i alwad ffôn arall yn dweud ei bod hi wedi marw'r bore hwnnw.
"Fel brawd mawr, oeddwn i angen bod yna ar gyfer fy mrodyr a Mam a Dad hefyd. Mae'n effeithio arna'i o hyd a rwy' dal i fod yn grac."

Mae marwolaeth ei fodryb - yma, gyda Rhys pan oedd yn blentyn - yn peri sawl cwestiwn iddo ynghylch ymateb yr awdurdodau i'r argyfwng coronafeirws
Cymaint oedd effaith y golled, cafodd Rhys hi'n anodd ymgysylltu â bywyd arferol pan gafodd y cyfyngiadau eu llacio yn ddiweddarach.
"Pan es i'n ôl i'r ysgol i wneud Lefel A o'n i'n ofnus i fynd mas o'r tŷ, ofnus i adael fy nheulu. O'n i'n grac o orfod bod yn yr ysgol ac roedd hynny'n galed.
"Do'dd pobl ddim yn gallu deall, oherwydd doedden nhw ddim wedi cael yr un profiadau."
Fe rannodd Rhys y profiadau hynny â'r ymchwiliad Covid. Ag yntau bellach yn 21, mae'n un o aelodau ieuengaf grŵp sy'n cynrychioli teuluoedd, Covid Bereaved Families for Justice Cymru.
Paratoadau Covid Cymru: Naw maes angen archwiliad pellach
- Cyhoeddwyd25 Mawrth
Ymchwiliad Covid: Beirniadu systemau 'dryslyd' Cymru
- Cyhoeddwyd18 Gorffennaf 2024
Ymchwiliad Covid: Staff Glangwili yn 'crio mewn cwpwrdd'
- Cyhoeddwyd12 Tachwedd 2024
Mae'n argyhoeddedig y dylai llywodraethau Cymru a'r DU fod wedi gwneud mwy i ddiogelu unigolion bregus.
"Yr un cwestiwn 'wy'n ei ailadrodd bob tro: pam gawsom ni'n trin yn wahanol o gymharu â'r bobl oedd yn rheoli - oedd yn cael partis yn Westminster, er enghraifft?
"Ar y dechrau yr argraff oedden i'n gael [gan wleidyddion] oedd nad oedden nhw'n bothered... bo' nhw'n trin Covid fel rhywbeth o'dd ddim yn serious. Hyd yn oed ar ôl iddyn nhw ymateb yn hwyr, do'dd yr ymateb hwnnw ddim yn ddigon.
"Gobeithio fydd 'na rywfaint o closure ond dyw e ddim yn mynd i ddod â Lynne yn ôl a dyw e ddim yn lleihau'r boen neu'r dicter."
'Weithiau dwi'n meddwl nes i freuddwydio fe i gyd'
Fe dreuliodd Dr Bethan Gibson gyfnodau helaeth o'r pandemig yn gweithio ddydd a nos yn ceisio achub bywydau yn adran gofal dwys yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg ger Llantrisant.
Roedd dalgylch yr ysbyty ymhlith yr ardaloedd a gafodd eu taro waethaf gan donnau Covid-19.

Gorfod rhoi gwybod i deuluoedd bod eu hanwyliad am farw oedd un o agweddau anoddaf ei gwaith, meddai Bethan Gibson
"Mewn cyfnod arferol roedd tua 20% o gleifion yn marw mewn unedau gofal dwys ond yn ystod Covid oedden ni'n colli tua 60% ac felly'n gorfod delio â llawer iawn mwy o farwolaethau," meddai.
"Dwi'n cofio gofalu am gwpl o gleifion o'r un teulu a gorfod symud y gwely fel bo' rhiant drws nesa' i'w merch a nhw'n marw wedyn drws nesaf i'w gilydd. Roedd pethau fel hynny yn cael effaith enfawr ar y staff i gyd.
"Un o'r agweddau anoddaf i fi oedd gorfod ffonio teulu ac esbonio bod rhywun yn mynd i farw a'u bod nhw'n methu dod mewn.
"Dwi'n cofio un neu ddau achlysur lle'r anfonodd y teuluoedd ganeuon oedd y claf yn eu hoffi, a ninnau'n chwarae'r caneuon a dal llaw y claf wrth iddyn nhw farw."

Er maint y trawma a'r baich emosiynol ar ddioddefwyr, teuluoedd a staff, mae Dr Gibson yn falch o ambell ddatblygiad cadarnhaol yn ystod y pandemig.
"Dwi'n gallu meddwl am bethau eithaf positif. Dwi erioed wedi gweld yr NHS yn newid mor gloi i geisio trin yr holl gleifion... hefyd pa mor gyflym 'naethon nhw ddatblygu brechlynnau.
"Ac os dwi'n meddwl am y tîm fan hyn, dwi erioed wedi gweithio mewn tîm mor glos - roedden ni gyd yn yr un cwch ac yn trio ein gorau.
"Pan dwi'n meddwl yn ôl mae'n fy atgoffa i pam wnes i ddewis meddygaeth yn y lle cyntaf.
"Mae'r ymchwiliad Covid yn mynd i helpu. Mae lleisiau pobl wedi cael eu clywed.
"Weithiau dwi'n meddwl nes i freuddwydio fe i gyd, cymaint oedd y pwysau. Mae'r ymchwiliad yn fy atgoffa i nad breuddwyd oedd y cyfan er mwyn ceisio sicrhau tro nesaf, os fydd 'na dro nesaf, y bydd pethau yn wahanol."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.