Cynlluniau ar gyfer gorsaf bŵer

  • Cyhoeddwyd

Mae cwmni Abergelli Power wedi cyhoeddi eu bod yn bwriadu adeiladu gorsaf bŵer nwy yn Felindre ger Abertawe.

Byddai'r pwerdy, pe bai'n derbyn caniatad cynllunio, yn cael ei leoli ar dir fferm Abergelli i'r gogledd o draffordd yr M4.

Yn ôl y cwmni byddai'r cynllun yn creu 150 o swyddi adeiladu a 15 o swyddi parhaol.

Gallai greu 150 o swyddi adeiladu a 15 o swyddi parhaol.

Mae'r cwmni yn honni bydd y hyn yn hwb o filiynau o bunnoedd i economi'r de-orllewin.

Cyn gwneud cais cynllunio bydd y cwmni yn ymgynghori gyda thrigolion.

Pe bai'r cynllun yn llwyddo dywed y cwmni y bydd yr orsaf yn gallu cynhyrchu hyd at 299MW o drydan, digon i gyflenwi hyd at 400,000 o gartrefi erbyn 2020.