Gweinidog Cyfoeth Naturiol: Ymchwiliad digon eang?
- Cyhoeddwyd
Mae arweinydd Democratiaid Rhyddfrydol Cymru wedi codi pryderon ynghylch cwmpas ymchwiliad i weld a yw rôl Alun Davies fel aelod etholaethol wedi gwrthdaro gyda'i swydd fel gweinidog.
Mae'r Prif Weinidog Carwyn Jones wedi gofyn i'r Ysgrifennydd Parhaol i gynnal ymchwiliad ar ôl i'r Gweinidog Cyfoeth Naturiol Alun Davies ysgrifennu at swyddogion Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) ynglŷn â phrosiect i adeiladu trac rasio enfawr yn ei etholaeth.
Mae disgwyl i Derek Jones gyflwyno adroddiad i'r prif weinidog o fewn pythefnos.
Ond mewn llythyr at y prif weinidog, mae Kirsty Williams yn gofyn am sicrwydd y bydd yr ymchwiliad yn ystyried amrywiaeth o doriadau posibl o reolau gweinidogol.
Yn y llythyr a anfonwyd brynhawn dydd Iau, gofynnodd Ms Williams a oedd yr ymchwiliad "yn ystyried a oes unrhyw rannau eraill yng Nghôd y Gweinidogion wedi cael eu torri"?
Ddydd Mawrth, dywedodd y prif weinidog: "Mae pryderon wedi eu mynegi yn ddiweddar am ymddygiad un o fy Ngweinidogion ac os yw ei rôl fel aelod etholaethol wedi gwrthdaro gyda'i swydd fel Gweinidog.
"Ar sail hyn, rwyf heddiw wedi gofyn i'r Ysgrifennydd Parhaol i edrych ar y ffeithiau ynghylch y mater hwn".
Llythyr
Mae'r cynlluniau i fuddsoddi £280 miliwn i adeiladu'r trac ger Glyn Ebwy wedi ysgogi gwrthwynebiad arbenigwyr a gwleidyddion.
Ar un adeg roedd asiantaeth CNC yn erbyn y cynllun ond yn hwyrach fe ddywedodd swyddogion eu bod yn fwy bodlon ar effaith y prosiect ar yr amgylchedd.
Datgelwyd fod y gweinidog, yn rhinwedd ei waith fel Aelod Cynulliad lleol, wedi ysgrifennu at CNC yn "mynegi pryder am brosesau" yr asiantaeth.
Fe ddaeth y llythyr i'r golwg ar ôl i Gareth Clubb, ymgyrchydd Cyfeillion y Ddaear, wneud cais o dan Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd10 Mehefin 2014
- Cyhoeddwyd6 Mehefin 2014