Alun Ffred yn beirniadu penderfyniad M4
- Cyhoeddwyd
Mae aelod cynulliad blaenllaw wedi codi pryderon nad oes ystyriaeth lawn wedi ei roi i'r cynlluniau i adeiladu ffordd newydd yn ardal Casnewydd er mwyn lliniaru tagfeydd ar yr M4.
Dywed Alun Ffred Jones, cadeirydd Pwyllgor Amgylchedd y Cynulliad, ei fod o'n pryderu nag oes digon o sylw wedi bod i roi gwir ddewis arall.
Mae'r tri opsiwn sy'n cael eu hystyried gan Lywodraeth Cymru yn ymwneud â rhan o'r draffordd ar ochr ddeheuol y ddinas yn ôl Mr Jones, AC Plaid Cymru dros Arfon.
Mae Mr Jones wedi ysgrifennu llythyr at y Gweinidog Trafnidiaeth Edwina Hart, gan godi pryderon ariannol ac amgylcheddol.
Dywedodd llefarydd ar ran llywodraeth Cymru y byddant yn ymateb maes o law.
Y llynedd fe wnaeth arbenigwr trafnidiaeth awgrymu y byddai gwella ffyrdd presennol yr ardal yn dod â budd tebyg ar gost is.
Mae tagfeydd ar yr M4 yn ardal Casnewydd yn cael eu gweld fel problem gyson i bobl busnes a theithwyr.
Tua £1 biliwn
Bwriad Llywodraeth Cymru yn yr hirdymor yw adeiladu ffordd newydd i liniaru'r broblem - a hynny ar gost o tua £1 biliwn.
Ond mae pryder am y gost ac mae grwpiau amgylcheddol yn dweud y byddai'n niweidiol.
Dywed Alun Ffred Jones fod pobl sydd wedi rhoi tystiolaeth gerbron y pwyllgor yn dweud ei bod yn bosib bod llywodraeth Cymru wedi torri rheolau'r Undeb Ewropeaidd drwy beidio â rhoi gwir ddewis gwahanol fel rhan o'r broses ymgynghori.
Mae Mr Jones yn gofyn a ddylid ystyried opsiwn y llwybr glas fel gwir ddewis arall.
Byddai'r "Llwybr Glas" yn defnyddio cyfuniad o'r A48 i'r de o Gasnewydd a'r hen ffordd Waith Dur ar ochr ddwyreiniol y ddinas, i greu ffordd ddeuol newydd.
Modd cynyddu
Yn ôl cefnogwyr y cynllun, byddai'r ffordd o safon traffordd, a byddai modd cynyddu nifer y lonydd i dri pe bai angen.
Mae Pwyllgor Amgylchedd y Cynulliad yn bwriadu cyhoeddi adroddiad am effaith amgylcheddol ffordd newydd cyn i'r Cynulliad dorri am yr haf.
Dywedodd llefarydd ar ran y Gweinidog Trafnidiaeth Edwina Hart y bydd hi yn ymateb maes o law i lythyr Mr Jones.
Mae o yn dweud ei fod o eisiau ateb erbyn dydd Gwener.
Cynllun pwysig
Dywedodd llefarydd ar ran Ffederasiwn y Busnesau Bychain fod y corff wedi rhoi tystiolaeth i'r pwyllgor a'u bod yn "awyddus i glywed ymateb y gweinidog i'r llythyr, a'r nifer o gwestiynau sy'n cael eu codi, a hynny erbyn y dyddiad a benodwyd gan y pwyllgor sef dydd Gwener.
Mae'r canghellor George Osborne wedi dweud fod cynllun i liniaru traffig ar yr M4 yn un o'r cynlluniau pwysicaf o ran ffyrdd yn y DU.
Cafodd y cynlluniau cyntaf i liniaru traffig yn yr ardal eu dadorchuddio yn 2004.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd6 Mawrth 2013
- Cyhoeddwyd7 Rhagfyr 2013
- Cyhoeddwyd6 Tachwedd 2013
- Adran y stori
- Cyhoeddwyd10 Ebrill 2014
- Adran y stori
- Cyhoeddwyd25 Mawrth 2014
- Adran y stori
- Cyhoeddwyd6 Rhagfyr 2013
- Adran y stori
- Cyhoeddwyd12 Rhagfyr 2013