Cwis Geiriadur Prifysgol Cymru

  • Cyhoeddwyd
GeiriadurFfynhonnell y llun, Gwasg Prifysgol Cymru

Mae 'na tua wyth miliwn o eiriau Cymraeg yng Ngeiriadur Prifysgol Cymru, sy'n cael ei gyhoeddi yn gyflawn ar-lein am y tro cyntaf.

Tybed ydych chi'n gwybod ystyr y geiriau canlynol? Mae'r atebion ar waelod y dudalen.

1. Pam y buasech yn teimlo'n "llunglwyfus"?

a. am nad ydych yn teimlo fel cymryd hunlun

b. am ei bod hi'n ddydd Llun

c. am nad ydych yn hapus gyda llun gafodd ei dynnu ohonoch

2. Beth yw hynodrwydd y gair "cyfrwngddarostyngedigaeth"?

a. gair hwyaf y Geiriadur

b. gair hynaf y Geiriadur

c. gair anoddaf ei ddweud y Geiriadur

3. Pa bryd y mae "Mawrthgwyn"?

a. dydd Mawrth cyntaf ym mis Chwefror

b. mis Mawrth mewn blwyddyn naid

c. dydd Mawrth y Sulgwyn

4. Beth yw ystyr 'swsog'?

a. un sy'n swsio

b. cyn swyddog yng nghymdeithas Gymraeg SWS Llundain

c. gwraig sy'n gwerthu treip

Disgrifiad o’r llun,

Swsog? Yr actores Siân Phillips, cyn-Lywydd Cymdeithas Gymraeg SWS

5. Beth mae "terfel" yn ei olygu?

a. adar soniarus

b. mêl gloywedig

c. torf afreolus

6. Mae "gwichys" yn enw arall ar beth?

a. gweilch yn nhafodiaith Sir Benfro

b. telyn sy'n gwichian

c. gwenoliaid y bondo

7. Beth yw ystyr "rhagnodyn"?

a. gair arall am `bresgripsiwn'

b. nodyn sy'n cael ei rannu cyn cyfarfod

c. nodyn wrth diwnio piano

Disgrifiad o’r llun,

Rhagnodyn?

8. Mae "elain" yn enw poblogaidd, ond beth yw'r prif ystyr?

a. un sy'n hoff o redeg

b. broga/llyffant

c. carw ifanc

9. Pwy sy'n "wyntgarcharor"?

a. un wedi ei gaethiwo gan wyntoedd croesion

b. un sy'n byw mewn tŷ wedi ei amgylchynu gan felinau gwynt

c. carcharor sy'n torri gwynt yn gyson

10. Beth yw ystyr "rabsen"?

a. beic sy'n dda i ddim

b. darn arian bychan

c. cwningen fach

Disgrifiad o’r llun,

Rabsen?

ATEBION

1. b

2. a

3.c

4.c

5.b

6.c

7. a

8.c

9. a

10. b