Nato: Trafod agenda Casnewydd
- Cyhoeddwyd
Mae gweinidogion tramor gwledydd Nato yn cwrdd ym Mrwsel - y tro olaf i aelodau'r gynghrair gwrdd cyn yr uwchgynhadledd yng Nghasnewydd.
Prif bwrpas y cyfarfod yw penderfynu beth fydd dan sylw yng Nghasnewydd ym mis Medi.
Mae logo ar gyfer yr uwchgynhadledd, sy'n cynnwys delweddau eiconig o Gymru, ei gyflwyno i'r wasg a'r cyhoedd.
Dywed Prif Weinidog Cymru Carwyn Jones, sydd ar ymweliad a phrif ddinas gwlad Belg, mae hwn fydd yr achlysur mwyaf o'i fath yn hanes Prydain.
Logo
Cafodd y logo ar gyfer y gynhadledd ei chyhoeddi fore Mercher gan yr Ysgrifennydd Tramor William Hague.
Mae'n cynnwys cestyll Cymru, pont gludo Casnewydd a'r ddraig goch.
Mae gan Gymru fwy o gestyll i bob milltir sgwar nac unrhyw wlad arall yn y byd, ac mae pont Casnewydd yn un o ond chwech sydd yn dal i weithio yn y byd.
Dywedodd y trefnwyr bod y logo yn cynrychioli hanes a diwylliant Cymru.
Roedd Mr Jones a'r Ysgrifennydd Tramor William Hague yn bresennol mewn cinio nos Fawrth ar gyfer y gweinidogion tramor, oedd yn cynnwys John Kerry, Ysgrifennydd Cartref yr Unol Daleithiau.
Ar y fwydlen roedd cig oen o Gymru, tatws Sir Benfro, ac roedd cyfle i westeion flasu gwin Ancre Hill Estates o Sir Fynwy.
Fe fydd y gweinidogion tramor yn trafod beth fydd ar yr agenda pan fydd arweinwyr Nato yn cwrdd yn y Celtic Manor, ger Casnewydd, ym mis Medi.
Dywed swyddogion Nato yw ei bod yn debyg y bydd yr uwch gynhadledd yn canolbwyntio ar sut y dylai gwledydd y gorllewin ymateb i bolisïau Rwsia yn yr Wcráin.
Fe fyddant hefyd yn trafod y broses o dynnu milwyr o Afghanistan.
Yn ôl swyddogion mae'r etholiadau diweddar yn y wlad ar gyfer dewis arlywydd yn dangos fod lluoedd arfog y wlad 'ar y trywydd cywir'
Er gwaetha digwyddiadau treisgar ystod y pleidleisio, dywed Nato fod y sefyllfa yn llawer gwell na'r etholiad diwethaf yn 2009.