Arian i gefnogi pobl goll a'u teuluoedd
- Cyhoeddwyd
Mi fydd yr elusen Missing People yn derbyn £500,000 dros gyfnod o dair blynedd gan y Loteri Fawr ar gyfer cefnogi pobl sydd wedi bod ar goll, a'u teuluoedd.
Bydd grŵp ymgynghori Cymreig yn cael ei sefydlu er mwyn ceisio rhoi cefnogaeth i bobl sy'n dychwelyd ar ôl bod ar goll, er mwyn ceisio'u hatal rhag gadael eto.
Mae'r awdurdodau ym Mhrydain yn amcangyfrif eu bod nhw'n derbyn rhyw 330,000 o adroddiadau am bobl sydd ar goll bob blwyddyn, gyda'r mwyafrif o'r rhan (tua 65%) o dan 17.
Un sydd wedi croesawu'r buddsoddiad yw perthynas i Richey Edwards o'r Manic Street Preachers.
Fe aeth y canwr ar goll yn 1995 a does neb wedi ei weld ers hynny. Cafodd ei gar ei ddarganfod yn ddiweddarach ger Pont Hafren.
Mae bellach yn cael ei ystyried i fod wedi marw.
'Arloesol'
Dywedodd chwaer Mr Edwards, Rachel Elias: "Ry'n ni'n ddiolchgar i Missing People am yr help a'r gefnogaeth maen nhw wedi ei roi i mi a fy nheulu, a llu o deuluoedd eraill ledled y wlad.
"Rwy'n falch o weld y prosiect arloesol hwn, sy'n cael ei ariannu gan y Loteri Fawr, yn cael ei ddarparu ar gyfer pobl Cymru."
Mi fydd y prosiect yn cael ei ddatblygu ar y cyd gydag awdurdodau heddlu Cymru yn ogystal â nifer o sefydliadau gwirfoddol.
Un agwedd o'r gwaith fydd sicrhau bod deunydd ar gael yn y Gymraeg ar gyfer rhoi cyngor i bobl sy'n dioddef o broblemau sy'n gysylltiedig â phobl goll.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd22 Chwefror 2012