Ymprydio: 'Un o'r ymgyrchoedd pwysicaf'
- Cyhoeddwyd
Mae nifer o ymgyrchwyr dros hawliau iaith yn ymprydio am 24 awr er mwyn rhoi pwyso ar Lywodraeth Cymru i wneud newidiadau i'r Bil Cynllunio.
Ar hyn o bryd dyw'r bil drafft ddim yn cynnwys yr un cyfeiriad at y Gymraeg, yn ôl Cymdeithas yr iaith.
Mae un o'r ymprydwyr, Angharad Tomos, wedi dweud wrth Cymru Fyw fod hon yn un o'r "ymgyrchoedd pwysicaf" iddi erioed fod yn rhan ohoni.
Ond mae Llywodraeth Cymru yn dweud mai Cynlluniau Datblygu Lleol yw'r cyfrwng addas i ystyried effeithiau ar yr iaith, nid o fewn y bil.
'Un o'r ymgyrchoedd pwysicaf'
Yn ôl Cymdeithas yr Iaith, dyw'r Bil Cynllunio fel y mae ar hyn o bryd ddim yn galluogi cymunedau i wrthod rhoi caniatâd cynllunio i ddatblygiadau tai ar sail yr iaith.
Un o brif ofynion yr ymprydwyr yw bod anghenion lleol yn hytrach na thargedau tai yn cael blaenoriaeth pan mae cynlluniau i adeiladu nifer uchel o dai yn cael eu cyflwyno.
"Mae hon yn un o'r ymgyrchoedd pwysicaf, yn bendant," meddai Angharad Tomos oedd yn gadeirydd ar y Gymdeithas pan gafodd yr ymgyrch dros Ddeddf Iaith ei lansio.
"'Dw i'n gweld y sefyllfa yn fy ardal fy hun - y frwydr ddiweddaraf efo Cyngor Gwynedd â'r bwriad i godi 8.000 o dai yng Ngwynedd a Môn.
"Ro'n i'n meddwl bod canlyniadau'r Cyfrifiad yn ddigon i argyhoeddi unrhyw un ynglŷn â difrifoldeb y sefyllfa."
'Cymryd yr iaith o ddifrif'
Yn ôl Ms Tomos mae nifer y cymunedau Cymraeg yng Nghymru lle mae 70% neu fwy yn siarad yr iaith wedi gostwng o rhyw 100 i 39 ers 1991.
Mae hyn yn golygu bod y rhai sydd ar ôl yn fwy gwerthfawr nag erioed.
"Dyw llawer o'r datblygiadau yma ddim yn ateb angen lleol. Dydan ni ddim yn gwrthwynebu codi tai sy'n seiliedig ar angen lleol ond rydym mor siomedig nad oes yr un cyfeiriad at y Gymraeg yn y fersiwn ddrafft o'r Bil Cynllunio.
"Rydyn ni'n teimlo mai un o'r prif bethau sydd angen pan mae rhywun yn codi stad o dai yw bod ymchwil wyddonol yn cael ei gynnal i ganfod beth fydd yr effaith tebygol at y Gymraeg.
"Mae hyn yn ymwneud â chymryd y Gymraeg o ddifrif. Os fysa'r newidiadau rydym yn gofyn amdanyn nhw wedi cael eu gwneud cyn 1991 mi fyddai'r canran o siaradwyr Cymraeg llawer cryfach."
TAN 20
Mewn ymateb i benderfyniad yr ymgyrchwyr i ymprydio, mae'r llywodraeth yn dweud mai nad y Bil Cynllunio yw'r ffordd ddelfrydol o sicrhau nad yw datblygiadau'n niweidio'r iaith.
Meddai llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru "Cadarnhaodd y Prif Weinidog ymrwymiad Llywodraeth Cymru i'r Gymraeg yn ei ddatganiad polisi ar 17 Mehefin.
"Mae'r Nodyn Cyngor Technegol, TAN 20, yn ei gwneud yn glir mai'r lle mwyaf priodol o fewn y system gynllunio ar gyfer ystyried effeithiau datblygiadau ar y Gymraeg yw trwy'r Cynllun Datblygu Lleol.
"Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i system sy'n seiliedig ar gynllun a dylai awdurdodau cynllunio lleol wneud yn siŵr eu bod yn ystyried y Gymraeg wrth baratoi Cynlluniau Datblygu Lleol. I'w helpu, cyhoeddwyd canllaw ymarfer ar 17 Mehefin i gyd-fynd â datganiad y Prif Weinidog.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd17 Mehefin 2014
- Cyhoeddwyd11 Mawrth 2014
- Cyhoeddwyd9 Hydref 2013