Oedi cyn agor Pont Briwet newydd

  • Cyhoeddwyd
Pont Briwet
Disgrifiad o’r llun,

Fe fydd trenau yn mynd dros y bont newydd o fis Medi a ceir cyn y Nadolig

Fydd Pont newydd Briwet ddim yn agor dros yr haf fel yr oedd disgwyl.

Mae'r bont, sy'n cludo Rheilffordd y Cambrian dros Y Ddwyryd, wedi bod ar gau ers mis Tachwedd 2013 ac mae gyrwyr wedi cael eu dargyfeirio am wyth milltir ar hyd yr A496 trwy Faentwrog tra bod y bont ar gau.

Roedd peirianwyr wedi gobeithio y byddai'r bont newydd yn barod erbyn yr haf.

Ond mae Cyngor Gwynedd wedi dweud na fydd trenau yn rhedeg tan fis Medi ac y bydd cerbydau yn gallu mynd dros y bont newydd cyn y Nadolig.

Yn ôl y cyngor mae'r gwaith i osod pont newydd yn lle'r un 150 oed "yn symud yn ei flaen yn dda".

Nôl ar y cledrau

Dywedodd y Cynghorydd Gareth Roberts, Aelod Cabinet Amgylchedd Cyngor Gwynedd: "Rwy'n falch bod dyddiad wedi ei osod ar gyfer agor y bont rheilffordd newydd.

"Tra mae bysiau wedi bod yn cludo teithwyr rhwng gorsafoedd, yn amlwg nid oedd y trefniant hwn yr un mor gyfleus â'r trên, ac rydym yn deall fod pawb yn awyddus i allu ail-afael yn eu siwrneiau trên a phrofi rhan gyntaf o'r prosiect cyffrous yma."

Dywedodd Mark Langman, rheolwr gyfarwyddwr llwybrau i Network Rail yng Nghymru, bod hyn yn newyddion gwych i'r rheilffordd â'r teithwyr yn ogystal â chymunedau sy'n dibynnu arno.

"Roedd y gefnogaeth dderbyniwyd gan gymunedau Abermaw, Harlech a Thywyn yn ystod ein hymgeision i geisio ail-agor rhan isaf y llinell yn dilyn y difrod storm ddigynsail yn gynharach yn y flwyddyn yn anhygoel," meddai.

"A gyda Cyngor Gwynedd yn agos i gwblhau'r prosiect i adeiladu pont rheilffordd Pont Briwet newydd, rydym yn edrych ymlaen at ail-gychwyn y gwasanaeth yr holl fordd i Bwllheli."

Ychwanegodd Ian Bullock, Rheolwr Gyfarwyddwr Arriva Trains Wales, y bydd llinell y Cambrian wedi ail-agor yn ei chyfanrwydd mewn pryd i'r flwyddyn ysgol newydd.

Cafodd y prosiect a ddisgrifwyd fel un "peiriannyddol cymhleth" gyllid o'r Undeb Ewropeaidd i osod pont newydd yn lle'r hen bont.

Mae hefyd wedi ei ariannu'n rhannol gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop, trwy'r Llywodraeth Cymru, yn ogystal â chyllid gan TraCC, Network Rail a Chyngor Gwynedd.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol