Alun Davies wedi torri'r cod ymddygiad

  • Cyhoeddwyd
Alun Davies
Disgrifiad o’r llun,

Mae disgwyl i Alun Davies wneud datganiad yn y Senedd ddydd Mawrth

Mae Prif Weinidog Cymru wedi dweud fod Alun Davies wedi torri'r cod ymddygiad Gweinidogol ar ôl iddo ysgrifennu at Cyfoeth Naturiol Cymru ynglŷn â phrosiect i adeiladu trac rasio enfawr yn ei etholaeth.

Ond mae Carwyn Jones wedi dweud na fydd 'na weithredu pellach yn digwydd.

Mewn datganiad gan y Prif Weinidog dywed nad oedd y mater yn un syml a bod y Gweinidog Cyfoeth Naturiol a Bwyd wedi ymddiheuro wrtho.

Roedd 'na honiadau fod Mr Davies wedi bod yn "llawdrwm" ar ôl ysgrifennu at Cyfoeth Naturiol Cymru ynglŷn â'r cynllun trac rasio gwerth £280 miliwn ger Glyn Ebwy.

Ond mae'r Prif Weinidog yn dweud nad oedd y Gweinidog yn un o'r bobl oedd yn gwneud y penderfyniad am y mater.

"Yn ogystal mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi bod yn glir na fu 'na ddylanwadu ac na chafodd safbwyntiau'r corff eu newid wedi trafodaethau gyda'r Gweinidog yn ei rôl fel Aelod Cynulliad," meddai Mr Jones.

Angen newid y cod

"Dwi wedi delio gyda'r mater yma gyda'r Gweinidog yn uniongyrchol ac mae wedi ymddiheuro i mi."

Mae arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru, Kirsty Williams, wedi dweud nad oes modd amddiffyn penderfyniad y Prif Weinidog.

"Sut allwch chi gyfaddef bod rhywun wedi torri'r rheolau ond yna gwrthod ei gosbi?

"Mae hyn yn codi'r cwestiwn beth yw pwynt y cod Gweinidogol?"

Ychwanegodd bod hyn yn dangos problemau gyda'r system bresennol.

"Am nad oes 'na system swyddogol yn ei le, fe all Llywodraeth Lafur Cymru wneud fel mae hi yn mynnu ac amddiffyn un o rhai eu hunain wrth gyfaddef fod y Gweinidog wedi torri'r rheolau."

Ychwanegodd bod angen adolygiad o'r cod Gweinidogol, a bod angen ymgynghorydd annibynol i fod yn gyfrifol amdano.

Mi fydd Mr Davies yn gwneud datganiad personol yn y Senedd yn ddiweddarach.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol