Galw am gyhoeddi ymchwiliad i ymddygiad Gweinidog
- Cyhoeddwyd
Mae'r gwrthbleidiau yn y Cynulliad wedi galw ar y Prif Weinidog i wneud canfyddiadau ymchwiliad i'r Gweinidog am Gyfoeth Naturiol a Bwyd yn gyhoeddus.
Ar Fehefin 10, dywedodd Carwyn Jones y byddai ymchwiliad ar ôl i'r Gweinidog Cyfoeth Naturiol, Alun Davies ysgrifennu at swyddogion Cyfoeth Naturiol Cymru ynglŷn â phrosiect i adeiladu trac rasio enfawr yn ei etholaeth.
Roedd honiad bod Mr Davies wedi torri cod y gweinidogion, ac roedd disgwyl i ganfyddiadau'r ymchwiliad gael eu rhoi i'r Prif Weinidog o fewn pythefnos i'r cyhoeddiad.
Dros bythefnos ers hynny, mae'r Ceidwadwyr a'r Democratiaid Rhyddfrydol wedi galw ar y Prif Weinidog i adrodd yn ôl.
Mae'r Prif Weinidog wedi dweud y bydd yn gwneud datganiad yn y man.
Ymchwiliad
Roedd honiadau bod Mr Davies wedi torri cod y gweinidogion, ac wedi ymddwyn yn "llawdrwm" ar ôl iddo ysgrifennu at CNC ynglŷn â'r cynllun trac rasio gwerth £280m yn ei etholaeth.
Ar un adeg, roedd CNC yn erbyn y trac rasio, ond yn ddiweddarach, dywedodd yr asiantaeth eu bod wedi eu bodloni gyda'r cynllun a'i effaith amgylcheddol.
Daeth i'r amlwg fod y gweinidog, yn rhinwedd ei waith fel Aelod Cynulliad lleol, wedi ysgrifennu at CNC yn "mynegi pryder am brosesau" yr asiantaeth.
Ar Fehefin 10, dywedodd Mr Jones ei fod "wedi gofyn i'r Ysgrifennydd Parhaol i edrych ar y ffeithiau ynghylch y mater hwn", ac y byddai'n "diweddaru" ACau wedi hynny.
Dywedodd yr AC Ceidwadol, Antoinette Sandbach bod y pryderon yn rhai "difrifol iawn" a bod angen atebion.
"Os yw gweinidog Llafur wedi defnyddio ei swydd i sicrhau mantais yn ei etholaeth ei hun - yna mae angen i'r Prif Weinidog weithredu yn gryf," meddai.
"O ystyried y miliynau o bunnoedd o arian cyhoeddus sydd ynghlwm â chynllun Cylchffordd Cymru, dylai canfyddiadau'r ymchwiliad gael eu cyhoeddi ar frys.
"Mae hwn yn amlwg yn niddordeb y cyhoedd - ac mae oedi ei gyhoeddiad yn annerbyniol."
'Angen corff annibynol'
Mae Arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol, Kirsty Williams wedi galw am sefydlu corff annibynnol i ymchwilio i achosion o dorri cod y gweinidogion.
"Mae wedi bod yn bythefnos ers i'r Prif Weinidog alw am ymchwiliad, ond rydyn ni'n dal i aros am y canlyniad," meddai.
Ychwanegodd: "Mae angen i'r adroddiad gael ei gyhoeddi ar unwaith, a dylai'r Prif Weinidog fod yn atebol i Aelodau Cynulliad heb oedi.
"Ni fydd unrhyw beth llai na chyhoeddiad llawn yr adroddiad a datganiad yn y siambr yn ddigonol."
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Mae'r Prif Weinidog wedi derbyn adolygiad yr Ysgrifennydd Parhaol a bydd yn gwneud datganiad yn y man."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd10 Mehefin 2014
- Cyhoeddwyd6 Mehefin 2014
- Cyhoeddwyd12 Mehefin 2014