Treth bop yn lleihau gordewdra?

  • Cyhoeddwyd
Fizzy drinks
Disgrifiad o’r llun,

Mae treth bop wedi ei chyflwyno yn Ffrainc, y Ffindir a rhai taleithiau yn America

Mae gwaith ymchwil ar bolisi Plaid Cymru i gyflwyno treth ar ddiodydd siwgr yn awgrymu y gallai'r dreth gael effaith sylweddol ar iechyd pobl.

Dywed y papur bod 'na rywfaint o dystiolaeth y gallai treth bop o 20% leihau gordewdra.

Yn ôl un astudiaeth mi fyddai'r dreth yn golygu y byddai ryw 8,000 yn llai o bobl yn ordew yng Nghymru a dros 13,000 yn llai o bobl dros eu pwysau.

Ond mae 'na amheuaeth am gywirdeb rhai elfennau.

Cafodd y papur ei gynhyrchu ar ran Plaid Cymru gan LG Research.

Maen nhw wedi edrych ar astudiaethau sydd wedi eu gwneud yn barod, y mwyafrif yn America, er mwyn llunio'r ddogfen.

Yn ystod cynhadledd y blaid ym mis Hydref mi gyhoeddodd Leanne Wood gynlluniau i gyflwyno treth ar ddiodydd siwgr.

Treth mewn gwledydd eraill

Dyw'r blaid ddim eto wedi penderfynu pa ddiodydd siwgr fyddai yn cael eu trethu gan y gallen nhw gynnwys diodydd gyda siwgr naturiol.

Mae'r pwnc yn un sydd yn cael ei drafod fwy, fwy ac mewn rhai taleithiau yn America mae'r dreth mewn grym. Dyna'r sefyllfa yn Ffrainc a'r Ffindir hefyd.

Ym mis Mawrth 2014 mi ddywedodd Prif Swyddog Meddygol Lloegr bod angen ystyried symud i ryw fath o dreth sigwr i daclo gordewdra.

Rhai o gasgliadau'r papur ydy y byddai'r dreth yn effeithio fwyaf ar bobl ar incwm isel ac y byddai'r effaith yn dibynnu ar faint o'r dreth fyddai yn hitio pocedi siopwyr.

Mi allai archfarchnadoedd er enghraifft benderfynu i beidio rhoi'r dreth yn llawn ar brisiau'r diodydd.

Mae'r papur hefyd yn nodi nad oes 'na lawer o waith ymchwil wedi ei wneud ynglŷn â'r farn gyhoeddus.

Ymyrraeth yn iawn

Mae Elin Jones, llefarydd iechyd y blaid yn credu byddai yn cael effaith cadarnhaol:

"Yng Nghymru, mae gennym rai o'r cyfraddau uchaf o orfwyta siwgr ac o ordewdra, felly rhaid i ni fod ar flaen y gad wrth drin y materion hyn.

"Ar draws hen ardaloedd glofaol y de, mae dros 60% o bobl dros bwysau, felly mae'n iawn i ni weithredu er lles iechyd y cyhoedd."

Mewn cyfweliad gyda'r BBC dywedodd ei bod hi'n iawn i Lywodraeth ymyrryd.

"Mae'r wladwriaeth yn barod yn gwneud hyn yng nghyd-destun treth ar sigaréts, treth ar alcohol."

Ffynhonnell y llun, Science Photo Library
Disgrifiad o’r llun,

Yn ôl y papur mi allai'r dreth leihau nifer y bobl sydd dros eu pwysau ac yn ordew

Ychwanegodd: "Yn amlwg fel unigolion mae gyda ni i gyd gyfrifoldeb i wneud y penderfyniadau iawn am ein diet a'n hiechyd personol. Ond mae gan y Wladwriaeth hefyd rôl i chwarae yn annog arferion da."

Ddim yn synhwyrol

Nod y blaid ydy defnyddio hyd at £45 miliwn y flwyddyn o'r dreth i helpu i recriwtio 1,000 o feddygon yn ychwanegol ar gyfer y gwasanaeth iechyd.

Ond yn y Senedd ddydd Mercher roedd y Prif Weinidog yn cwestiynu hyn.

"Os ydy pobl yn yfed llai o bop yna mi fyddech chi angen haneru nifer y doctoriaid.

"Dyw e ddim yn sylfaen gadarn iawn er mwyn llunio polisi, eich bod chi yn gorfod sicrhau bod pobl yn yfed mwy o bop er mwyn cael mwy o ddoctoriaid, llai o bop, llai o ddoctoriaid.

"Sut mae hynny yn synhwyrol? Dw i ddim yn gweld sut allai hynny weithio yn y tymor hir."