Cynlluniau Plaid Cymru i geisio denu mwy o feddygon

  • Cyhoeddwyd
DoctorFfynhonnell y llun, PA
Disgrifiad o’r llun,

Mae Plaid Cymru yn awyddus i ddenu mwy o feddygon sy'n gallu siarad Cymraeg

Fe allai dyledion myfyrwyr meddygol iau sy'n dewis gweithio yng Nghymru gael eu talu o dan gynlluniau sydd wedi'u datgelu gan Plaid Cymru.

Pe bai Plaid Cymru yn dod i rym maen nhw'n dweud y byddai'r dyledion - tua £75,000 yr un ar gyfartaledd - yn cael eu dileu.

Ond byddai hynny ar yr amod fod y doctoriaid yn barod i weithio yng Nghymru am gyfnod penodol.

Yn ôl Plaid Cymru mae angen 1,000 o feddygon ychwanegol i fynd i'r afael â'r hyn maen nhw ei alw'n "wasanaeth iechyd sy'n gwegian".

Ond mae'r blaid Lafur yn dweud fod Plaid Cymru yn euog o chwarae gwleidyddiaeth ffantasi.

Yn ogystal â chael gwared ar ddyledion, mae'r ddogfen ymgynghorol yn cynnig cyflwyno bwrsariaeth a gosod cwota ar gyfer denu myfyrwyr meddygol sy'n gallu siarad Cymraeg.

Mae'r blaid hefyd yn son am fesurau tymor byr i fynd i'r afael â'r prinder meddygon.

Adrannau Brys

Byddai hyn yn cynnwys denu tua 100 o ddoctoriaid o dramor i helpu llenwi bylchau.

Dadl Plaid Cymru yw pe bai rhagor o ddoctoriaid yn cael eu recriwtio fe fyddai yna lai o angen canoli rhai gwasanaethau ysbytai.

Cam, meddai Plaid Cymru, fyddai'n golygu y gallai pob ysbyty cyffredinol gadw adran frys.

Dywedodd Elin Jones AC, llefarydd Plaid Cymru ar iechyd: "Am ddegawdau, mae llywodraethau ar ddau ben yr M4 wedi trin problemau yn ein Gwasanaeth Iechyd Gwladol (GIG) gyda phlastar.

"Yn anffodus, mae creu atebion tymor byr yn awr wedi medi'r corwynt, a dyna pam ein bod mewn sefyllfa mor anodd yn ein hysbytai. Bydd y polisïau y mae Plaid Cymru yn ymgynghori arnynt yn awr yn gosod sylfeini cadarn i'n GIG gael goroesi a ffynnu am genedlaethau i ddod.

"Yr awydd i gael GIG cynaliadwy sy'n gyrru polisi iechyd Plaid Cymru. Bydd y ddogfen ymgynghori hon yn fan cychwyn i'r ddadl am y modd y byddwn yn gosod y sylfeini cadarn hyn ar gyfer ein gwasanaeth iechyd sydd yn enwog ledled y byd."

Ychwanegodd Ms Jones mai annog "dadl fywiog a chyfnewid syniadau" yw prif bwrpas y ddogfen newydd.

'Ffantasi'

Mae'r blaid yn barod wedi cyhoeddi y bydden nhw'n cyllido rhagor o ddoctoriaid drwy gyflwyno treth ar ddiodydd sy'n cynnwys llawer o siwgr.

Wrth ymateb i argymhellion Plaid Cymru dywedodd AC Llafur Pontypridd Mick Antoniw: "Mae polisi treth ar ddiodydd Plaid Cymru eisoes yn destun gwawd. A yw'r cenedlaetholwyr o ddifrif yn awgrymu bod eu treth ar ddiodydd yn golygu nad oes angen moderneiddio'r nac ailstrwythuro'r gwasanaeth iechyd yng Nghymru?

"Ar y gorau mae hwn yn bolisi sydd yn anllythrennog, mewn termau economaidd.

"Ar ar ei waethaf, mae'n dangos plaid sy'n fodlon ceisio twyllo pobl sy'n gweithio yn y gwasanaeth iechyd ac yn dibynnu ar y gwasanaeth iechyd yng Nghymru.

"Mae Plaid Cymru yn chwarae gwleidyddiaeth ffantasi, maen nhw'n gwybod yn iawn nad oes gan y polisïau gwag hyn unrhyw obaith o weld golau dydd.

"Yn enwedig o ystyried mai nhw yw'r drydedd blaid yng Nghymru."

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol