Y Prif Weinidog yn amddiffyn Alun Davies

  • Cyhoeddwyd
Alun Davies
Disgrifiad o’r llun,

Mae Alun Davies yn cynrychioli Blaenau Gwent lle mae cynlluniau i adeiladu trac rasio.

Mae'r Prif Weinidog Carwyn Jones wedi amddiffyn y penderfyniad i beidio diswyddo'r Gweinidog Alun Davies er iddo dorri cod ymddygiad gweinidogion.

Cafodd y Prif Weinidog ei herio am y penderfyniad mewn trafodaeth frys yn y Senedd.

Dywedodd Mr Jones nad oedd Mr Davies yn ddigon eglur ynglŷn â'i rôl pan roedd yn trafod â swyddogion Adnoddau Naturiol Cymru y cynlluniau i adeiladu trac rasio beiciau modur yn yr etholaeth.

Yn ôl y Prif Weinidog, fe ddylai Mr Davies fod wedi cymryd camau pellach i ddweud yn glir ei fod yn trafod y mater fel Aelod Cynulliad lleol yn hytrach na fel gweinidog.

Ddydd Mawrth dywedodd Mr Jones fod Mr Davies wedi torri'r cod ymddygiad gweinidogol ar ôl iddo ysgrifennu at Cyfoeth Naturiol Cymru ynglŷn â phrosiect i adeiladu'r trac yn ei etholaeth.

'Llawdrwm'

Fe dderbyniwyd ymddiheuriad gan Mr Davies ac fe gyhoeddwyd na fyddai gweithredu pellach.

Roedd 'na honiadau fod Mr Davies wedi bod yn "llawdrwm" ar ôl ysgrifennu at Cyfoeth Naturiol Cymru ynglŷn â'r cynllun trac rasio gwerth £280 miliwn ger Glyn Ebwy.

Dywedodd y Prif Weinidog nad oedd y gweinidog yn un o'r bobl oedd yn gwneud y penderfyniad am y mater.

"Yn ogystal mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi bod yn glir na fu 'na ddylanwadu ac na chafodd safbwyntiau'r corff eu newid wedi trafodaethau gyda'r gweinidog yn ei rôl fel Aelod Cynulliad," meddai Mr Jones.

"Dwi wedi delio gyda'r mater yma gyda'r gweinidog yn uniongyrchol ac mae wedi ymddiheuro i mi."

'Adroddiad damniol'

Mae'r Democratiaid Rhyddfrydol wedi cyhuddo'r Prif Weinidog o geisio osgoi ateb cwestiynau yn llawn - ac maen nhw wedi gofyn i'r llywodraeth gyhoeddi'r holl ddogfennau yn ymwneud â'r mater.

Dywedodd Plaid Cymru bod sefyllfa Mr Davies yn anghynaliadwy. Dywedodd Simon Thomas AC:"Dwi ddim yn gweld sut gall y Gweinidog Adnoddau Naturiol aros yn ei swydd ar ôl cyhoeddi'r adroddiad damniol hwn".