Gweinidog: Pleidlais diffyg hyder?

  • Cyhoeddwyd
Alun Davies

Mae BBC Cymru wedi cael gwybodaeth bod y gwrthbleidiau yn trafod pleidlais diffyg hyder yn y Gweinidog Cyfoeth Naturiol a Bwyd, Alun Davies.

Gallai pleidlais gael ei chynnal wythnos nesa'.

Fyddai ddim rhaid i lywodraeth Cymru lynu wrth y canlyniad.

Mae gan y Blaid Lafur union hanner y seddi ym Mae Caerdydd, ond fe fyddai'n rhaid i'r gwrthbleidiau gytuno ar drywydd a sicrhau presenoldeb llawn gan yr holl ACau ar y diwrnod.

Daw'r awgrym yn dilyn cyhoeddiad Carwyn Jones na fydd Alun Davies yn colli ei swydd fel gweinidog, wedi iddo dorri'r cod ymddygiad Gweinidogol.

Fe ysgrifenodd Mr Davies at Cyfoeth Naturiol Cymru ynglŷn â phrosiect i adeiladu trac rasio enfawr yn ei etholaeth.

Mewn datganiad, fe ddywedodd y Mr Jones nad oedd y mater yn un syml a bod y Gweinidog Cyfoeth Naturiol a Bwyd wedi ymddiheuro wrtho.

Yr Ysgrifennydd Parhaol Syr Derek Jones wnaeth gynnal yr ymchwiliad i ymddygiad Mr Davies.

Roedd yr ymchwiliad yn gofyn a wnaeth llythyr gan Mr Davies i Gyfoeth Naturiol Cymru (CNC) fynd yn groes i'r cod, gan fod y gweinidog yn gyfrifol am oruchwylio gweithgareddau CNC.

Yn wreiddiol roedd CNC wedi gwrthwynebu'r trac rasio gwerth £280 miliwn - ond yna dywedodd y corff eu bod yn fodlon â'r ymateb i'w pryderon.

Yn ôl adroddiad Syr Derek Jones, fe wnaeth Mr Davies dderbyn cyngor gan ei weision sifil ym Mawrth 2013 - cyngor oedd yn dweud na ddylai wneud sylw ar y trac rasio hyd yn oed yn ei rôl fel AS.

Mae'r adroddiad hefyd yn datgelu fod swyddfa'r prif weinidog wedi cysylltu â Mr Davies yn Awst 2013 i fynegi "syndod" fod y gweinidog yn cael ei ddyfynnu yn y Western Mail yn cefnogi'r trac rasio.

Fe wnaeth Mr Davies dderbyn cyngor i beidio a gwneud rhagor o sylwadau cyhoeddus heb yn gyntaf ofyn am gyngor gan y prif weinidog.