Alun Davies wedi cael y sac

  • Cyhoeddwyd
Alun Davies
Disgrifiad o’r llun,

Alun Davies yw Aelod Cynulliad Blaenau Gwent

Mae Alun Davies wedi cael y sac o gabinet Llywodraeth Cymru.

Mewn datganiad, dywedodd y Prif Weinidog Carwyn Jones fod Mr Davies wedi gofyn i'r gwasanaeth sifil am wybodaeth breifat am ddiddordebau ariannol rhai Aelodau Cynulliad.

Fe ddywedodd y gwasanaeth sifil wrth Mr Davies nad oedd y wybodaeth ar gael yn gyhoeddus, ond fe ofynnodd am y wybodaeth eto wedyn.

Mae cyfrifoldebau Mr Davies wedi cael eu rhannu rhwng Edwina Hart, sydd yn ychwanegu amaeth, pysgodfeydd a bwyd i'w phortffolio economaidd a John Griffiths, y Gweinidog Diwylliant, fydd yn cymryd cyfrifoldeb am bolisi amgylcheddol.

Mae Rebecca Evans yn camu o'r meinciau cefn i fod yn ddirprwy weinidog gyda chyfrifoldeb am amaeth a physgodfeydd.

Ymddiheuro

Nos Fawrth, dywedodd Alun Davies ei fod yn ymddiheuro i'r gweision sifil am eu rhoi "mewn sefyllfa anodd iawn".

Mae hefyd yn dweud ei fod "yn flin ei fod yn gadael y Llywodraeth ar adeg pan fo diwygiadau hanesyddol y Polisi Amaethyddol Cyffredin yn cael eu cyflwyno".

Ychwanegodd, "Rydyn ni wedi gosod mewn lle y rhaglen datblygu gwledig mwya' yn ein hanes a dwi'n hyderus y bydd hynny'n galluogi amaethyddiaeth i ffynnu yn y dyfodol.

"Dwi hefyd eisiau gwneud yn glir fy mod i'n cefnogi'r Prif Weinidog a Llywodraeth Cymru. Dwi'n mynd i ganolbwyntio ar fy etholaeth ym Mlaenau Gwent".

'Gofyn eto'

Ar yr ail o Orffennaf, roedd Mr Davies wedi gofyn i'w ysgrifennydd preifat am fanylion taliadau Polisi Amaethyddol Cyffredin (PAC) oedd wedi eu rhoi i bum AC gan gynnwys Arweinydd y Ceidwadwyr Andrew RT Davies ac Arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol Kirsty Williams.

Y tri arall oedd Llŷr Gruffydd, Antoinette Sandbach a William Powell.

Fe wnaeth ei ysgrifennydd preifat yna yrru llythyr at Ysgrifennydd Parhaol Swyddfa'r Prif Weinidog oedd yn dweud:

"Mae gen i ddau bryder yn y fan hyn sef bod yr wybodaeth yma ddim, yn dechnegol, yn gyhoeddus eto a bod Cod y Gweinidogion... yn datgan na ddylai Gweinidogion ddefnyddio adnoddau Llywodraeth Cymru ar gyfer dibenion gwleidyddiaeth bleidiol...

"Rydw i wedi cynghori'r Gweinidog nad ydw i'n credu ei fod yn briodol i gael y wybodaeth yma... ond mae nawr wedi gofyn am y wybodaeth yma eto, ar lafar.

"Gan ystyried yr wythnos rydym newydd ei dioddef, mi fyddwn i'n ddiolchgar iawn i gael ei safbwynt ar hyn. Rydw i'n hapus i ddarparu gwybodaeth bellach os ydych ei angen."

Roedd Mr Davies yn y penawdau wythnos diwethaf mewn cysylltiad â mater arall, wedi iddo yrru llythyr at Gyfoeth Naturiol Cymru ynglŷn â'r trac rasio sy'n cael ei gynllunio ar gyfer ei etholaeth.

Yn y cyd-destun hwnnw, daeth yr Ysgrifennydd Parhaol i'r casgliad ei fod wedi torri'r Cod Gweinidogol am gymysgu'r ffiniau rhwng ei gyfrifoldebau fel Aelod Cynulliad ac fel Gweinidog y llywodraeth.

Line

Alun Davies a Llywodraeth Cymru

  • Fe gafodd Alun Davies ei ethol yn Aelod Cynulliad Rhanbarth Canolbarth a Gorllewin Cymru yn 2007.

  • Wedi iddo gael ei ail-ethol yn 2011, fe gafodd ei benodi yn Ddirprwy Weinidog Amaeth, Bwyd, Pysgodfeydd a Rhaglenni Ewropeaidd.

  • Ym mis Mawrth 2013 - fe'i penodwyd o'n Weinidog Adnoddau Naturiol a Bwyd.

Line

'Annoeth ac amhriodol'

Mewn datganiad ysgrifenedig, dywedodd y Prif Weinidog: "Yn y dyddiau diwethaf mae cyfathrebiadau rhwng y Gweinidog Cyfoeth Naturiol a Bwyd a gweision sifil yn ei adran wedi eu dangos i mi.

"Mae'r e-byst yn awgrymu bod y Gweinidog wedi gofyn i'r gwasanaeth sifil roi gwybodaeth breifat iddo am ddiddordebau ariannol sawl un o Aelodau'r Siambr.

"Mae'r rhain yn ymwneud â thaliadau CAP i'r unigolion.

"Rydw i'n credu bod y ceisiadau yma yn annoeth, yn amhriodol ac mae'r ffaith eu bod nhw wedi eu gwneud o gwbl yn annerbyniol i mi fel Prif Weinidog. O ganlyniad, rydw i wedi gofyn i'r Gweinidog Cyfoeth Naturiol a Bwyd adael y llywodraeth.

"Doedd hwn ddim yn benderfyniad hawdd i mi ei wneud a hoffwn ddangos fy ngwerthfawrogiad o'r cyfraniad y mae Alun Davies wedi ei wneud i waith y llywodraeth yn ystod ei amser yn y swydd."

Ymateb gwleidyddol

Mae Kirsty Williams wedi dweud bod yr hyn wnaeth Mr Davies yn "erchyll ac yn gwbl annerbyniol i unrhyw un sy'n gwasanaethu mewn swydd gyhoeddus".

Ychwanegodd: "Mae'r ffaith bod Alun Davies wedi defnyddio'i swydd Weinidogol er mwyn dechrau ymgyrch o bardduo enwau da'r rheiny oedd yn ceisio ei ddwyn i gyfrif yn warthus."

Mae Andrew RT Davies hefyd wedi beirniadu'r cyn Weinidog yn hallt.

"Mae hon yn sgandal ryfeddol sy'n codi cwestiynau difrifol ac ehangach am y Prif Weinidog Llafur a'i lywodraeth," meddai Arweinydd y Ceidwadwyr.

Ychwanegodd bod y diswyddiad yn "anochel" a bod "rhaid codi cwestiynau am ei rôl fel Aelod Cynulliad," hefyd.

'Dibrisio ymddiriedaeth'

Dywedodd Llŷr Gruffydd, yr AC Plaid Cymru oedd yn destun yr ymholiad gan Mr Davies:

"Mae'r cyhoedd yn ymddiried yn ein haelodau cabinet etholedig, ac y mae'n amlwg fod Alun Davies wedi dibrisio'r ymddiriedaeth honno.

"Dylsai'r Prif Weinidog fod wedi cymryd y camau hyn yr wythnos ddiwethaf pan ganfu'r adroddiad annibynnol i ymddygiad Alun Davies ei fod wedi torri'r Cod Gweinidogol ar fwy nag un achlysur."

Mae Alun Davies wedi rhyddhau datganiad sy'n dweud: "Rwy'n parhau i fod yn canolbwyntio'n llwyr ar Flaenau Gwent. Fel y dywedais pan gefais fy ethol, mae Blaenau Gwent yn dod yn gyntaf, ail a thrydydd."